Rhaid colli pwysau cyn llawdriniaeth
- Cyhoeddwyd
Fe fydd rhaid i gleifion gordew gwblhau rhaglen o golli pwysau cyn y cawn nhw lawdriniaethau dewisol os fydd argymhellion gan un bwrdd iechyd yn cael eu cymeradwyo.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hefyd yn dweud y dylai ysmygwyr fynd ar gyrsiau i'w cynorthwyo i roi'r gorau iddi cyn cael llawdriniaeth, ac y gallai hynny arbed dros £400,000.
Ni fyddai'r argymhellion yn cynnwys cleifion canser na phobl sydd angen llawdriniaeth frys.
Bydd rhaid i'r bwrdd wneud toriadau o £90 miliwn er mwyn talu ffordd yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod hyn yn dangos fod angen "chwistrelliad o arian" ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Ymarfer corff
Bydd aelodau'r bwrdd iechyd yn cael cyfle i bleidleisio ar yr argymhellion mewn cyfarfod ddydd Iau, Mawrth 28.
Fe fydd rhaid i ysmygwyr fod wedi cael cynnig, derbyn a chwblhau cwrs rhoi'r gorau i 'smygu cyn y cawn nhw fynd ar restr llawdriniaethau dewisol.
Mae oddeutu 23% o boblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg yn ysmygwyr. Fe ddywed y bwrdd y byddai rhwng 10% a 30% yn debyg o roi'r gorau iddi pe baen nhw'n cael cefnogaeth cyn cael llawdriniaeth.
Hefyd fe fyddai disgwyl i unrhyw un gyda mynegai màs corfforol (BMI) o 40 neu fwy orfod derbyn a chwblhau cwrs rheoli pwysau cyn y cawn nhw fynd ar restr debyg.
Gallai hynny gynnwys cael eu cyfeirio gan feddyg teulu at gynllun ymarfer corff.
'Esgus'
Mae'r dogfennau ar gyfer y cyfarfod yn dweud bod cleifion gordew bron 12 gwaith yn fwy tebygol o ddiodde' cymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth, ac mae tua hanner yn diodde' canlyniadau gwael ar ôl cael cymalau newydd.
Mae llawdriniaeth ddewisol yn golygu llawdriniaeth sydd wedi ei chynllunio o flaen llaw, sydd heb fod yn driniaeth frys.
Mae'r GIG mewn rhannau eraill o'r DU wedi cyflwyno gofynion tebyg ar gyfer cleifion gordew ac ysmygwyr.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies: "Er bod angen croesawu y bydd mwy o gyrsiau ar gael i ysmygwyr a phobl ordew, rwy'n bryderus y byddai peidio cymryd rhan yn y cyrsiau yn cael ei ddefnyddio fel esgus i oedi cyn cynnal llawdriniaethau ar gleifion sydd angen eu trin.
"Rhaid i'r bwrdd iechyd roi sicrwydd nad dyna fydd yn digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2012
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011