Mwy o gleifion gordew yn cael triniaeth yn ein hysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y cleifion gordew sy'n cael triniaeth yn ysbytai Cymru yn cynyddu - dyna mae ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru yn awgrymu.
Mae nifer yr achosion lle mae gordewdra yn fater sy'n haeddu sylw wedi codi bob blwyddyn ers 2006.
Mae oed cleifion sy'n diodde o gyflyrau sy'n gysylltiedig â gordewdra yn iau, gyda clefyd y siwgr math 2 i'w weld mewn pobl yn eu 20au neu iau.
Dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, fod gordewdra yn broblem iechyd fawr yng Nghymru.
Fe gyfeiriodd Dr Jewell at Arolwg Iechyd Cymru, dolen allanol y llynedd a wnaeth nodi bod 57% o oedolion naill ai dros eu pwysau neu yn y categori gordew.
Cronig
Dywed arbenigwyr iechyd fod gordewdra yn debyg o arwain at afiechyd cronig, ac mae'r ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan Fyrddau Iechyd Cymru yn awgrymu nad oes llawer o obaith i bethau wella.
Yn 2007, fe gofnododd staff ysbytai lai na 3,000 o achosion lle 'roedd gordewdra yn ffactor, ond erbyn 2010 roedd hyn wedi cynyddu i 4,500.
"Y neges yw fod gordewdra yn broblem iechyd cyhoeddus fawr, ac mae'n wael fod gennym dros hanner oedolion y wlad naill ai dros eu pwysau neu'n ordew," meddai Dr Jewell.
"Does ond rhaid i chi eistedd ar gornel stryd a gweld pobl yn cerdded heibio, mae'n broblem fawr.
"Mae'n ffactor sy'n creu risg o gael clefydau all achosi i rywun farw cyn eu hamser -clefyd y siwgr, clefyd y galon, strôc a chanser."
'Diwydiant bwyd'
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn ceisio taclo'r broblem fesul grŵp oedran, ond yn enwedig plant a phobl ifanc.
"Rhaid meddwl yn y tymor hir.
"Ni all y Gwasanaeth Iechyd daclo hyn ar ei ben ei hun.
"Rhaid gweithredu drwy'r diwydiant bwyd a deddfwriaeth ynghyd a phobl yn gweithredu drostyn nhw'u hunain."
Mae asutdiaeth ddiweddar gan Brifysgol Abertawe yn amcangyfrif bod gordewdra yn costio £73 miliwn i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru bob blwyddyn.
Yn ystod haf 2011 fe lansiwyd gwasanaeth i Gymru gyfan i gynorthwyo pobl gordew iawn yn Ysbyty Treforys.
Mae Sefydlaid Llawdriniaeth Gordewdra Cymru yn disgwyl cynnig llawdrinaieth i mwy na 70 o gleifion bob blwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011