Canolfan ar restr fer am wobr o bwys
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan dreftadaeth ar Ynys Môn wedi ennill ei lle ar restr fer am wobr fel atyniad twristiaeth mwyaf ysbrydoledig y flwyddyn aeth heibio.
Agorodd Teyrnas Gopr ar y llwybr arfordirol ger Amlwch ym mis Gorffennaf 2012.
Adrodd cysylltiad Ynys Môn fel prif safle cynhyrchu copr y byd yw nod y ganolfan dreftadaeth, ac mae hi bellach yn y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dreftadaeth ac Amgueddfeydd y Guardian, gwobr sy'n fawr ei bri yn y maes.
Roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi cefnogi'r prosiect â grant o £497,000 i helpu i gadw strwythurau o bwys ar y Mynydd, datblygu llwybr treftadaeth, rhoi hyfforddiant i bobl leol mewn medrau traddodiadol a chreu cyfleusterau TG arloesol i gysylltu'r Mynydd â'r Ganolfan Ymwelwyr.
Roedd y prosiect hefyd yn un o 24 wnaeth elwa yn sgil Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw sy'n cael ei gefnogi ag arian Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.
Fe wnaeth Cadw fuddsoddi £94,000 yn y prosiect ac fe roddwyd £460,000 arall gan raglen Môn a Menai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012