Gêm Wrecam yn fyw ar y teledu
- Cyhoeddwyd
Fe fydd gêm Wrecsam yn rownd derfynol Tlws yr FA ddydd Sul yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.
Llwyddodd y sianel gyda chais ar yr unfed awr ar ddeg i ddangos y gêm yn fyw.
Oherwydd trafferthion teithio yn sgil y tywydd garw, fe ofynnodd S4C i'r FA, Wrecsam a Grimsby ailystyried cynnig i ddarlledu'r gêm yn fyw.
Wrth ymateb i'r cytundeb, fe ddwedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands:
"Mae'r tywydd garw yng ngogledd ddwyrain Cymru'n golygu na fyddai llawer o gefnogwyr wedi medru teithio i Lundain i weld y ffeinal fawr yn Wembley.
"O ganlyniad, fe gysyllton ni a'r FA i ddweud bod ein cynnig ni i ddangos y gêm yn fyw yn dal ar gael, ac y byddai hynny'n galluogi cefnogwyr sy'n methu teithio i weld y gêm wedi'r cwbl.
"Mae'r tri wedi cytuno i'r cynnig ac fe fydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C o 2:45pm ddydd Sul Mawrth 24."
"Er nad oedd yr hawliau i ddangos y gêm yma'n fyw ar gael i ni'n wreiddiol, ry'n ni'n falch iawn bod pawb wedi ymateb i'r amgylchiadau newydd a sicrhau bod y cefnogwyr yn cael gweld pob munud o'r gêm hanesyddol hon."
Bydd y gic gyntaf yn Wembley am 3:00pm ddydd Sul.