Cynllun £1m ar gyfer atal llifogydd yn Y Borth

  • Cyhoeddwyd
Amddiffynfeydd arfordirol yn Y BorthFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2011 cafodd miloedd o dunelli o greigiau eu cludo o Norwy

Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi cyhoeddi bron i £1m ar gyfer cynllun atal llifogydd yng Ngheredigion.

Dywedodd Alun Davies y byddai £960,000 yn helpu amddiffyn busnesau a thai yn Y Borth.

Yn ystod rhan gynta'r cynllun, ddaeth i ben ym Mehefin 2012, cafodd £13m ei wario ar ddiogelu busnesau a thai yn y pentre'.

Cafodd dwy greigres artiffisial eu gosod 300 metr i mewn i'r môr gyda'r nod o ddenu syrffwyr i'r traeth sy'n ymestyn am bedair milltir.

Amddiffynfeydd

Roedd amddiffynfeydd wedi eu codi yn 1960 ac mae'r rhai newydd yn gwarchod 420 o dai a busnesau, gan gynnwys 40 o adeiladau masnachol, Rheilffordd y Cambrian a ffordd y B4353.

Yn ystod yr ail ran bydd mwy o amddiffynfeydd yn cael eu gwella - a llithrfa newydd yn cael ei chodi.

Gan fod y pentre' mor agos at y môr fe allai storm gael effaith fawr.

Dywedodd y gweinidog: "Heb y cynlluniau fe fyddai craidd y pentre' wedi diflannu o fewn 20 mlynedd oherwydd llifogydd yr arfordir ac erydu.

"Mae'r Borth yn enghraifft dda o'r llywodraeth yn cefnogi cymunedau mewn perygl o lifogydd."

Dywedodd eu bod yn datblygu polisi ariannu cenedlaethol ar gyfer rheoli risg llifogydd.

'Ers blynyddoedd'

Mae'r Cynghorydd Alun Williams, aelod cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, gwastraff a rheoli carbon, wedi dweud: "Mae hon yn gymuned bwysig yn y sir ac wedi bod mewn perygl o lifogydd difrifol ers blynyddoedd.

"Rydym yn ddiolchgar am yr ariannu fydd yn helpu diogelu dyfodol tymor hir y pentre'."

Yng Nghymru yn 2013-14 bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £47m mewn rheoli llifogydd ac erydu arfordirol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol