Ffordd osgoi Y Drenewydd gam yn agosach
- Cyhoeddwyd
Mae enw'r contractwr fydd yn gyfrifol am adeiladu ffordd osgoi hir-ddisgwyliedig Y Drenewydd wedi ei gyhoeddi.
Mae disgwyl i'r ffordd 3.4 milltir o hyd wella problemau traffig yn yr ardal.
Fe fydd y gwaith yn cael ei wneud gan Alun Griffiths Contracts Ltd gyda'r gefnogaeth beirianyddol ac amgylcheddol yn cael ei roi gan Atkins a TACP.
Mae'r gwleidyddion lleol wedi croesawu'r newyddion.
Dywedodd Russell George, AC Maldwyn, y bydd y ffordd osgoi yn "ryddhad" i drigolion a busnesau lleol.
"Er ei bod rhai misoedd yn hwyrach na'r hyn awgrymwyd yn wreiddiol gan y llywodraeth mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Trafnidiaeth wedi fy sicrhau na fydd 'na oedi pellach," meddai.
Dywedodd Glyn Davies, AS Maldwyn, y bydd y ffordd nid yn unig yn "bwysig i'r Drenewydd ond hefyd i Gymru gyfan".
"Mae'r Drenewydd wedi ei leoli ar ran allweddol o'r ffyrdd rhwng y de a'r gogledd a'r gorllewin i'r dwyrain.
"Mae'n allweddol bwysig i'r A483 a'r A489.
"Mae trigolion a busnesau lleol wedi bod yn wynebu problemau traffig sylweddol am flynyddoedd."
Ers dros ddeugain mlynedd mae Maer Y Drenewydd, Val Howard wedi galw am ffordd osgoi.
"Mae'r newyddion diweddara i'w groesawu," meddai.
"Ond ar ôl 40 mlynedd dwi'n siŵr y bydd na rai yn dal yn bryderus.
"Dwi'n mawr obeithio y bydd yn digwydd gan fod gwir angen ffordd osgoi ar y dref."
Fe ychwanegodd y gweinidog trafnidiaeth , Edwina Hart, ei bod yn falch o gyhoeddi pwy fydd y contractwyr.
Dywedodd y bydd y cynllun hefyd yn cynnwys llwybr troed a llwybr beics.
Y cam nesaf fydd paratoi cynlluniau cyn mis Ebrill 2014.