Y Rhanbarthau yn ymateb i ddatganiad y WRU am George North
- Cyhoeddwyd
Mae rhanbarthau rygbi Cymru wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad gan Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'r anghydfod am ddyfodol y gêm.
Roedd yr Undeb wedi honni bod y Scarlets wedi dechrau trafodaethau i werthu yr asgellwr George North cyn rhoi gwybod i'r chwaraewr.
Mae'r Undeb yn honni bod y Scarlets wedi dechrau trafodaethau i drosglwyddo'r chwaraewr i glybiau tramor yn 2012.
"Fe wrthododd George ac ystyried Ffrainc ond, er ei fod e'n anfodlon, fe ddywedodd y byddai'n barod i symud os mai dyna oedd dymuniad y Scarlets"
Bydd cytundeb North gyda'r Scarlets yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2013-14, ond mae e eisioes wedi cael cynnig i ymuno a Northampton Saints ar ddiwedd y tymor yma.
Mewn ymateb dywedodd Y Scarlets, ynghyd a'r 3 rhanbarth arrall - Gleision, Y Dreigiau a'r Gweilch, eu bod wedi eu "siomi'n arw" gyda datganiad yr Undeb.
Mae swyddogion y Scarlets hefyd wedi eu "rhyfeddu" gyda phenderfyniad yr Undeb i drafod dyfodol y seren 20 oed mewn ffordd mor gyhoeddus.
Yn eu datganiad mae'r Scarlets yn mynnu nad yw'r Undeb wedi gwneud unrhyw gynnig i helpu i gadw chwaraewyr yn y rhanbarth.
Dim ond o fewn y deufis diwetha y dechreuodd trafodaethau cytundebol ynglyn a dyfodol George North yn ol y Scarlets. Roedd y rhanbarth wedi cynnig estyniad o dair blynedd i gytundeb yr asgellwr.
"Dyna'r cynnig gorau y gallem ei wneud"
Mae'r rhanbarthau wedi addo "ystyried o ddifri" ddatganiad yr Undeb cyn cyhoeddi ymateb llawn.
Cyhoeddodd yr Undeb eu datganiad ar ol i gadeirydd Rygbi Rhanbarthol Cymru ddatgelu bod y rhanbarthau wedi cynnal trafodaethau cychwynnol ynglŷn â ffurfio cystadleuaeth Eingl-Gymreig newydd.
Dywedodd Gallagher wrth BBC Cymru bod yna "glwydi mawr i'w dringo" cyn y byddai hynny yn digwydd.
Mae Rygbi Rhanbarthol Cymru yn beio Undeb Rygbi Cymru am fethu sicrhau bod corff newydd yn cael ei sefydlu i gynrychioli'r Undeb a'r rhanbarthau.
Yn ol y rhanbarthau fe fyddai sefydlu'r PRGB wedi gallu datrys materion fel dyfodol George North a sicrhau bod y chwaraewyr gorau yn aros yng Nghymru.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod wedi ymrwymo i helpu'r rhanbarthau i sicrhau rygbi a busnes cynaliadawy yn y tymor hir.