Cefnogaeth i gynllun gwella amgueddfa a llyfrgell Aberhonddu
- Cyhoeddwyd

Mae'r cynlluniau'n cynnwys ailwampio ac ehangu Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog
Mae cynllun mawr i adeiladu llyfrgell newydd ac ailwampio amgueddfa yn Aberhonddu wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Powys.
Dywedodd swyddogion y byddai'r "canolbwynt diwylliannol a chymunedol", a fydd yn costio £8.4 miliwn, yn "adfywio'r dref".
Mae'r cynlluniau'n cynnwys ailwampio ac ehangu Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog tra byddai llyfrgell newydd yn cael ei adeiladu'n agos ato.
Bydd y cyngor yn gwneud cais am grant o £2 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae'r awdurdod yn gwario £1 miliwn o'i arian ei hun ar y cynllun tra y bydd arian arall yn dod drwy drefniant gyda datblygwyr.
Fe fydd datblygwyr yn ailwampio adeiladau gwag sy'n eiddo i'r cyngor yn Aberhonddu, a phan fyddai'r rhain yn cael eu gwerthu byddai'r cyngor yn cymryd cyfran o'r elw.
Gwaith atgyweirio
Mae cynlluniau i warchod ac ailddatblygu'r amgueddfa ac oriel gelf wedi bod yn cael eu hystyried dros y degawd diwethaf.
Mae angen atgyweirio to a gwaith cerrig Fictoraidd yr adeilad, sydd yn hen lys ac yn adeilad rhestredig Gradd II.

Llun o sut all llyfrgell newydd Aberhonddu edrych
Dywedodd adroddiad gan Gyngor Powys: "Mae gan (y ganolfan newydd) y potensial i ddarparu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr amgueddfa a'r llyfrgell yn Aberhonddu ac i helpu i gefnogi cynaladwyedd o fewn y gymuned yn Aberhonddu yn gyffredinol."
Dywedodd y cyngor y byddai'r amgueddfa a'r llyfrgell newydd yn hwb i dwristiaeth a swyddi adeiladu, yn creu swyddi parhaol ac yn cyfrannu'n sylweddol at adfywio canol tref Aberhonddu.
Fel rhan o'r cynllun bydd orielau pwrpasol newydd ar gyfer arddangosfeydd yn cael eu hadeiladu a bydd yr hen lys, ei gelloedd a siambr y llys yn cael eu hadfer ar gyfer ail-greu digwyddiadau, darlithoedd a chyflwyniadau.
Mae yna hefyd gynlluniau ar gyfer ystafelloedd cymunedol ac addysg, caffi a siop.
Mae'r ganolfan hefyd wedi cael ei chynllunio i gynnwys archifau Cyngor Powys ac amgueddfa gatrodol Aberhonddu, ond nid oes penderfyniad wedi ei wneud i symud y cyfleusterau yna ar hyn o bryd.