Heddlu: Dau yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Fe ymddiswyddodd dau berson o'r heddlu yng Nghymru yn 2012 am gamddefnyddio gwefannau cymdeithasol.
Ymddiswyddodd heddwas o Heddlu Dyfed-Powys am osod, y tu hwnt i'r gweithle, sylwadau amhriodol ar Facebook.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Mae swyddogion a staff yn cael eu hatgoffa'n gyson o'r angen i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol ac yn ofalus".
Yn Heddlu'r Gogledd fe wnaeth aelod o staff "achosi i gyfrifiadur gyflawni gweithred i sicrhau mynediad heb awdurdod i raglen/data yn groes i Adran 1 Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990".
Nid oedd yr unigolyn ar ddyletswydd ar y pryd ac fe ymddiswyddodd. Facebook oedd y wefan a ddefnyddiwyd.
'Newid yn gyflym'
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein polisi ar rwydweithio cymdeithasol ar-lein yn cael ei ddiweddaru i gymryd i ystyriaeth nifer o achosion diweddar yn genedlaethol a gwersi a dysgwyd mewn mannau eraill, gan fod cyfryngau cymdeithasol yn faes sy'n newid yn gyflym".
Yn Heddlu'r De, rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig i bedwar heddwas a rhoddwyd "cyngor rheoli" i ddau arall am roi "sylwadau ar rwydwaith cymdeithasol Facebook a oedd yn amhriodol".
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Mae gennym bolisi gyda chanllawiau clir am ddefnydd personol gwefannau rhwydweithio cymdeithasol a'r canlyniadau o'u camddefnyddio".
Ni chofnodwyd unrhyw achosion yn Heddlu Gwent yn 2012 o swyddogion neu staff yn camddefnyddio gwefannau cymdeithasol boed hynny yn y gweithle neu'r tu allan.
Daeth yr wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011