Adroddiadau am gamdrin: Ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa Cyngor Sir Penfro yn HwlfforddFfynhonnell y llun, BBC Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awdurdod yn dweud ei fod yn cyd-weithio â'r comisiynydd

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymchwilio i honiadau bod Cyngor Sir Penfro wedi rhyddhau adroddiadau am ddeg o blant oedd wedi eu camdrin yn rhywiol i ddioddefwr arall.

Mae'r cyngor yn dweud bod y person am weld y wybodaeth am ei hun, ond ei fod wedi derbyn manylion preifat am y lleill.

Mae swyddfa'r comisiynydd yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad i weld a oedd y cyngor wedi torri'r Ddeddf Diogelu Data.

Mae'r awdurdod yn dweud ei fod yn cyd-weithio â'r comisiynydd.

Panel o arbenigwyr

Daw hyn ychydig ddyddiau ar ôl i banel o arbenigwyr a benodwyd i oruchwylio Cyngor Sir Penfro, pan ddaeth trafferthion difrifol wrth warchod plant i'r amlwg, gwblhau ei waith.

Daeth y panel i fodolaeth wedi honiadau bod plant wedi cael eu cloi mewn ystafelloedd a dwylo un plentyn yn cael eu clymu gan athro.

Cafodd y panel ei greu gan Lywodraeth Cymru yn hydref 2011 i gefnogi'r awdurdod.

Bydd y bwrdd nawr yn adrodd yn ôl i'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews i wneud argymhellion pellach.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol