Sir Benfro: Panel plant yn cwblhau ei waith
- Cyhoeddwyd
Mae panel o arbenigwyr a benodwyd i oruchwylio Cyngor Sir Benfro, pan ddaeth trafferthion difrifol wrth warchod plant i'r amlwg, wedi cwblhau ei waith.
Daeth y panel i fodolaeth wedi honiadau bod plant wedi cael eu cloi mewn ystafelloedd a dwylo un plentyn yn cael eu clymu gan athro.
Cafodd y panel ei greu gan Lywodraeth Cymru yn hydref 2011 i gefnogi'r awdurdod.
Bydd y bwrdd nawr yn adrodd yn ôl i'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews i wneud argymhellion pellach.
Cyhoeddwyd adroddiad wedi ymchwiliad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Estyn i 25 o achosion o gam-drin proffesiynol honedig rhwng 2007 a 2011.
Roedd rhai o'r achosion yn ymwneud â phennaeth ysgol gynradd a gafodd ei garcharu ym mis Mai 2009 am ymosodiadau rhyw yn erbyn plant.
Gwelliannau
Clywodd cynghorwyr mewn cyfarfod cyn y Pasg bod gwelliannau sylweddol wedi digwydd dros y 18 mis diwethaf, a bod y rhagolygon am newid pellach yn dda.
Dywedodd y bwrdd bod "cryn dipyn o ffordd i fynd" gan ddymuno'n dda i'r awdurdod ar y daith.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Benfro, Jamie Adams, ei fod yn croesawu sylwadau'r bwrdd.
"Yn amlwg rwyf wrth fy modd bod y bwrdd wedi cydnabod y gwaith caled a'r gwelliannau sydd wedi digwydd dros y 18 mis diwethaf," meddai.
"Ar yr un pryd rydym yn sylweddoli fod llawer o waith eto i'w wneud.
"Fel yr wyf wedi dweud wrth y bwrdd fy hun, mae hon yn daith tuag at ymlaen yn hytrach nag am yn ôl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011