Connie Fisher yn agor Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013

  • Cyhoeddwyd
Connie FisherFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Connie Fisher wedi dweud ei bod yn gwerthfawrogi'r cyfle gafodd hi gan yr Urdd

Connie Fisher, enillydd y gyfres How Do You Solve a Problem Like Maria a seren y West End fydd un o sêr cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro.

Hefyd yn perfformio yn y cyngerdd fydd y tenor enwog, Rhys Meirion a'r gantores Elin Fflur a fydd yn canu eu deuawd elusennol, Y Weddi, yn fyw am y tro cyntaf.

Bydd cyfle hefyd i glywed gwaith y canwr o'r Solfach, Meic Stevens, yn cael ei ganu gan gôr ieuenctid lleol

Mae Eisteddfod yr Urdd 2013 yn cael ei chynnal yng Nghilwendeg ger Boncath, Sir Benfro, rhwng 27 Mai - 1 Mehefin.

Bydd y cyngerdd cyntaf yn cael ei gynnal nos Sul, 26 Mai am 8pm yn y pafiliwn ac yn nodi cychwyn yr ŵyl ieuenctid.

Bydd Connie sy'n wreiddiol o Hwlffordd yn cydarwain y cyngerdd gyda chyflwynydd C2, Radio Cymru, Ifan Jones Evans.

Gwerthfawrogi

Mae'r gantores wedi talu teyrnged i'r ŵyl am ei helpu i fagu profiad fel perfformiwr.

"Rwyf mor falch fy mod i'n cael bod yn rhan o gyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd eleni, yn enwedig gan ei bod mor agos i adref," meddai.

"Rwyf yn gwerthfawrogi pob cyfle ges i gystadlu yn yr Urdd ac fe helpodd y profiadau hyn i mi ddatblygu fel perfformwraig. Mae'r llwyfan a roddir gan yr Urdd i berfformwyr ifanc ddatblygu eu talent a pherfformio yn rhywbeth i'w ddathlu ac rwyf yn edrych ymlaen i fod yn rhan o'r dathliadau yn y cyngerdd agoriadol ddiwedd Mai."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Huw Ynyr, enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2012, yn cymryd rhan yn y cyngerdd agoriadol

Bydd hi hefyd yn Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod ar y dydd Iau, 30 Mai.

Tenor ifanc a enillodd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel yn 2012, Huw Ynyr, fydd un arall o'r prif artistiaid.

Meic Stevens

Bydd nifer o artistiaid lleol yn perfformio hefyd, gan gynnwys Trystan Llyr Griffiths a Lowri Evans.

Bydd yr actor Iwan John yn ymddangos fel ei gymeriad teledu Jac Russell a bydd perfformiad gan ddawnswyr gwerin Aelwyd Hafodwenog.

Am y tro cyntaf erioed, bydd Côr Aelwydydd Sir Benfro, sef côr sydd wedi ei sefydlu yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod, yn perfformio casgliad o ganeuon gan y canwr o'r Solfach, Meic Stevens a Band Mawr Ysgolion Sir Benfro yn perfformio.

Bydd cyfle hefyd i gael cipolwg ar sioe gynradd yr Eisteddfod, Pentigili a sioe gerdd yr ysgolion uwchradd, Gelli Gyfrin.