Dadorchuddio penddelw Bob Owen
- Cyhoeddwyd
Mae penddelw o'r achyddwr a'r casglwr llyfrau Bob Owen yn cael ei ddadorchuddio ddydd Sadwrn.
Ac mae cerflun yr artist John Meirion Morris yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Nhafarn yr Eryrod Llanuwchllyn yn ystod diwrnod agored Cymdeithas Bob Owen.
Mae dwsinau yno, gan gynnwys teulu Bob Owen, a'r Prifardd Mererid Hopwood yn arwain y seremoni.
Merch Bob Owen, Sian Williams, sy'n dadorchuddio'r penddelw.
1976
Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.
Syniad Gwilym Tudur, Siop y Pethau Aberystwyth, oedd hi er mwyn i bobl fedru rhannu gwybodaeth, cynnal ffeiriau a safoni prisiau llyfrau ail-law oedd yn anghyson ar y pryd.
Erbyn heddiw mae rhyw 1,000 o aelodau.
Cyhoeddwyd y cylchgrawn Y Casglwr yn 1977 ac mae'n dal i gael ei gyhoeddi dair gwaith y flwyddyn.
'Ei dalu amdano'
Dywedodd Mel Williams, golygydd y cylchgrawn a swyddog gweithredol y mudiad: "Mi oedden ni wedi meddwl ers blynyddoedd ein bod ni eisiau rhywbeth teilwng i goffáu Bob Owen am fod ei enw ar y gymdeithas.
"Llynedd mi oedd hi'n hanner can mlynedd ers ei farw o.
"Haf dwytha mi roddon ni hysbyseb yn Y Casglwr yn gofyn i bobl a oedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn cyfrannu at y penddelw. Erbyn rŵan mae o wedi cael ei dalu amdano."
Bydd y penddelw yn cael cartref parhaol yn Llyfrgell Prifysgol Bangor.
Mae Mel Williams yn dweud bod y brifysgol wrth ei boddau bod y cerflun yn dod yno.
"Pan es i at Einion Thomas, archifydd y coleg, oedd o wedi cynhyrfu yn lân."
13 oed
Ym 1885 y cafodd Bob Owen ei eni a chafodd ei fagu gydag ein nain ym Mhenparc, Llanfrothen.
Gadawodd yr ysgol yn 13 oed i fynd yn was ffarm cyn cael gwaith fel clerc yn chwarel y Parc a Chroesor.
Fe gyfrannodd yn helaeth i gylchgronau a newyddiaduron ar hyd ei oes ac roedd ganddo gasgliad enfawr o lyfrau.
Roedd ganddo ddiddordeb ysol yn y Cymry a fudodd i America. Daeth yn fuddugol ar draethawd yn ymwneud â'r pwnc yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe gafodd radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ac OBE am ei gyfraniad i hanes a llenyddiaeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2012