Rhoi'r gorau i gynllun morgeisi

  • Cyhoeddwyd
HousesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Byddai NewBuy wedi golygu hwb i bobl oedd am brynu eiddo gwerth hyd at £250,000 gyda blaendal o 5%

Mae cynllun oedd i fod i helpu prynwyr tai yng Nghymru wedi cael ei ddileu cyn iddo ddechrau.

Dywedodd gweinidogion Llywodraeth Cymru bod y diwydiant tai wedi tynnu eu cefnogaeth yn ôl wedi i gynlluniau tebyg gael eu cyhoeddi gan lywodraeth y DU.

Byddai NewBuy Cymru wedi galluogi prynwyr i gael morgeisi o dan amodau arbennig er mwyn cefnogi adeiladu 3,000 o gartrefi.

Dywedodd y Gweindog Tai Carl Sargeant fod cynllun llywodraeth y DU yn golygu "llai o risg i adeiladwyr".

Roedd NewBuy Cymru i fod i ddechrau'n swyddogol ar Fehefin 3 ac fe fyddai wedi bod yn agored i unrhyw un oedd am godi tai neu fflat oedd yn werth hyd at £250,000 gyda 5% o flaendal.

Dim rhybudd

Dywedodd Mr Sargeant wrth bwyllgor Aelodau Cynulliad na chafodd rybudd o flaen llaw am gynllun y DU, Help to Buy, ac nad oedd ganddo ddewis ond dileu cynllun Cymru.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn gweithredu gan na fyddai Help to Buy yn dechrau tan y flwyddyn nesaf.

Addawodd y gweinidog y byddai'n ystyried yn ofalus ba gymorth y byddai'n medru ei gynnig i brynwyr tai Cymru tan hynny.

Mae ymgynghorydd ar dai i Lywodraeth Cymru, Tamsin Stirling, wedi rhybuddio bod gweinidogion Cymru yn cael trafferth cael manylion gan Drysorlys y DU am sut y byddai Help to Buy yn gweithio yng Nghymru.

Dywedodd fod rhan o Help to Buy, sy'n cynnig morgais i bobl gydag ychydig o flaendal, yn mynd i fod ar gael yng Nghymru.

Ond ychwanegodd Ms Stirling fod ail elfen y cynllun, lle byddai llywodraeth y DU yn darparu benthyciad o hyd at 20% o werth y tŷ, ond ar gael yn Lloegr.

Dywedodd fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystyried a ellid cyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru.

'Oedi'

Roedd cynllun NewBuy yn rhan o'r cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn pasio cyllideb Cymru drwy'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Peter Black AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol fod gweinidogion wedi gadael pobl oedd yn ceisio prynu am y tro cyntaf "heb unrhyw fodd o gael mynediad i'r farchnad dai".

"Dro ar ôl tro mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi oedi cyn gweithredu'r cynllun," meddai.

"Nawr oherwydd methiannau llywodraeth Lafur Cymru mae'r cynllun wedi dymchwel. Mae blerwch fel hyn yn anioddefol."

Dywedodd Mark Isherwood AC ar ran y Ceidwadwyr yn y Cynulliad: "Tra bod prynwyr yn Lloegr a'r Alban yn elwa ar gynlluniau a lansiwyd y llynedd, pobl Cymru fydd unwaith eto yn talu'r pris am fethiant Llafur.

'Chwi-chwat'

"Mae pobl sy'n ceisio prynu am y tro cynta' yn haeddu llawer gwell ac fe ddylai'r prif weinidog ymddiheuro yn bersonol i bawb fydd ar eu colled os bydd y cynllun yma'n cael ei ddiddymu."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar dai, Rhodri Glyn Thomas AC: "Bu Llywodraeth Cymru yn chwit-chwat ers meitin am y cynllun fuasai wedi helpu prynwyr tro-cyntaf i roi troed ar yr ysgol eiddo ac y mae eu chwit-chwatrwydd unwaith eto wedi arwain at siomedigaeth.

"Mae'n hen bryd iddyn nhw gymryd camau allai helpu darpar-brynwyr tai yng Nghymru."