Rhybudd am dwristiaeth pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Daeth rhybudd i benaethiaid twristiaeth i beidio disgwyl llu o ymwelwyr ychwanegol i Gaerdydd er i glwb pêl-droed y ddinas ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair.
Dywedodd yr athro economeg Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd nad oedd cysylltiad pendant rhwng gweld tîm ar y teledu a phenderfynu ymweld â'r ddinas honno.
Ychwanegodd y byddai rhai swyddi newydd yn cael eu creu, ond y mwyafrif yn y stadiwm neu yn ymwneud â thrafnidiaeth.
Mae nifer wedi galw ar Gaerdydd i fanteisio ar dwristiaeth pêl-droed.
Astudiaeth
Mae'r Uwchgynghrair yn cael ei darlledu mewn 212 o wledydd o amgylch y byd - y gynghrair sy'n cael ei gwylio fwyaf yn y gamp.
Bydd timau fel Manchester United ac Arsenal yn dod â mwy o gefnogwyr gyda nhw na thimau yn y Bencampwriaeth.
Mae astudiaeth eleni wedi dangos bod presenoldeb Abertawe yn yr Uwchgynghrair wedi creu £58 miliwn i economi Cymru ac wedi creu neu warchod 400 o swyddi yn eu tymor cyntaf yn y brif adran.
Mae gwestai, tafarndai, cyngor y ddinas a'r siambr fasnach i gyd wedi sylwi ar fwy o weithgaredd nag yn 2011, medd yr astudiaeth.
Mae twf wedi bod hefyd yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr sydd am astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
'Adnabyddiaeth yn bwysig'
Ond mae'r Athro Jones yn siarsio gofal gan ddweud: "Hyd yn oed i'r timau mwyaf llwyddiannus, nid yw ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r ddinas.
"Bydd fe fydd swyddi. Swyddi i stiwardiaid a phobl sy'n ymwneud â rhedeg y stadiwm. Fe fydd swyddi ym maes trafnidiaeth, dyna'r prif feysydd.
"Efallai y gwelwn ni fwy o weithgaredd mewn rhai atyniadau diwylliannol fel Castell Caerdydd.
"Doedd Abertawe ddim yn weledol i gynulleidfaoedd tan iddyn nhw fod ar y teledu, a bellach mae'n cael ei adnabod mewn lleoedd lle nad oedd neb wedi clywed am y lle o'r blaen.
"Mae adnabyddiaeth yn bwysig, ond mae gan Gaerdydd hynny'n barod."
Gweld cyfleoedd
Roedd Siambr Fasnach De Cymru yn fwy optimistaidd gan gredu y bydd llawer o gyfleoedd.
Dywedodd Graham Morgan o'r Siambr: "Mae angen i Gaerdydd ddatblygu strategaeth ehangach i fanteisio ar dwristiaeth pêl-droed, gan annog cefnogwyr i aros yn y ddinas a'r cyffiniau, i ddefnyddio busnesau lleol ac i ymweld ag atyniadau twristiaeth.
"Hefyd mae angen chwilio am gefnogwyr pêl-droed sydd yn draddodiadol wedi gwylio'r gêm ar y teledu, a'u hannog i ymweld â'r stadiwm.
"Mae'r Uwchgynghrair yn frand rhyngwladol ac fe fydd Caerdydd ac Abertawe yn cael ei hybu yn fyd eang yn gyson.
"Mae'n gyfle busnes hefyd felly, ac fe ddylai busnesau sy'n allforio ar hyn o bryd ddefnyddio'u lleoliad yn y ddwy ddinas fel modd o agor drysau wrth chwilio am gwsmeriaid newydd dramor."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013