Siop: 47 yn colli swyddi

  • Cyhoeddwyd
Siop Ocky White
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y siop ei sefydlu yn 1910

Mae siop sy' wedi masnachu ers mwy na chanrif yn cau a 47 yn colli eu swyddi.

Tad-cu y rheolwr gyfarwyddwr presennol, Jeremy White, sefydlodd siop Ocky White yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn 1910.

Mae Mr White wedi dweud bod y dirwasgiad a chanofan siopa newydd ar gyrion y dre' yn Llwynhelyg wedi arwain at effeithiau "ysgytwol".

Bydd y siop yn cau yn yr haf ond bydd swyddfa deithio Ocky White Travel yn parhau o hyd.

Ocky White oedd enw pobl leol ar sefydlydd y siop Octavius White.

Yn ôl y cwmni, ei amcan oedd sefydlu siop a gwerthu nwyddau "nad oedd ar werth yn siop Woolworth".

Yn y siop mae 10 adran, gan gynnwys dillad menywod, harddwch, gemau ac anrhegion.