Bedwyr yn mynd i Fenis

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bedwyr yn sôn am ei brosiect 'arallfydol' yn ei eiriau ei hun.

Mae Bedwyr Williams yn gweithio o'i sied yng ngardd ei dŷ yn Rhostryfan, pentref bach ger Caernarfon.

Mae'r ffaith ei fod wedi ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Fenis eleni wedi denu gohebwyr papurau Llundain i'w ddrws yn barod, yn awyddus i gyfarfod yr arlunydd Cymreig sy'n gobeithio serennu yn y Biennale.

Bob yn ail flwyddyn mae'r byd celfyddydol yn teithio i Fenis ar gyfer yr arddangosfa, sy'n denu cynrychiolwyr o ledled y byd.

Ers 10 mlynedd mae Cymru wedi bod yn bresennol, ac er bod manylion arddangosfa 2013 yn gyfrinachol, mae Bedwyr Williams yn fodlon datgelu mae'r bydysawd - a seryddiaeth - yw testun ei waith.

Meddai: "Mae yna gysylltiadau amlwg rhwng Fenis a seryddiaeth. Dangosodd Galileo ei delesgop cyntaf yno, ond y seryddwyr amatur rwyf i wedi canolbwyntio arnynt."

"O'r holl ddiddordebau, seryddiaeth yw'r un ble mae'r rhai sy'n cymryd rhan hefyd yn rhan bwysig yn nyrchafiad y maes. Mae pobl adref yn darganfod comedau, lleuadau a phlanedau."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Y bydysawd yw testun gwaith yr arlunydd

Ei waith

Bydd o leiaf un ystafell yn ei arddangosfa yn cynnwys arsyllfa, tra bod syniadau am faint a phellter yn dod i'r amlwg gyda gwrthrychau anferth tebyg i themâu Alice in Wonderland.

Trwy gymysgu hiwmor a thechnegau gwahanol o weithio, mae Bedwyr wedi sefydlu ei hun o fewn y byd celfyddydol yn barod.

Llynedd fe greodd gorff allan o deisen, gan wahodd y rhai oedd yn gwylio i ddechrau bwyta ei waith. Yn Fenis eleni mae disgwyl gweld ei greadigrwydd ar waith unwaith eto.

'Moment i Gymru'

Cafodd Bedwyr ei ddewis i gynrychioli Cymru gan bwyllgor o'r Cyngor Celfyddydau, sy'n rhannu cost y prosiect, sef £400,000 gyda'r llywodraeth.

Mae'r arlunydd Osi Rhys Osmond yn cadeirio pwyllgor ar arddangosfa Fenis, ac mae'n gefnogol iawn o waith Bedwyr:

"Trwy ddewis arlunydd fel Bedwyr, sydd yn arbennig o dda, rydyn ni'n dangos i'r byd ein bod ni'n wlad aeddfed a chyfoes, ein bod ni'n gallu delio gyda'r syniadau diweddaraf, ac ein bod ni cystal ag unrhyw un arall yn y byd.

"Mae hefyd yn amser i Gymru fod yn falch iawn ohono. Rydyn ni ymysg y gorau, ac yn dangos gwaith fydd yn un o'r prif bynciau trafod yn Fenis eleni ac am flynyddoedd i ddod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol