Gwobr arall i Gareth Bale

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale wedi sgorio 24 o goliau i Tottenham Hotspur a Chymru'r tymor hwn

Mae'r Cymro Gareth Bale wedi cael ei ddewis yn Bêl-droediwr y Flwyddyn gan newyddiadurwyr y gamp.

Daw hyn wedi i asgellwr Tottenham Hotspur a Chymru gael ei enwi yn chwaraewr y flwyddyn a chwaraewr ifanc y flwyddyn gan aelodau'r PFA - Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol - yr wythnos ddiwetha'.

Mae Bale, 23, wedi sgorio 24 o goliau'r tymor hwn, gydag 19 ohonynt yn yr Uwchgynghrair.

Mae hefyd wedi sgorio 5 gôl mewn pedair gêm i Gymru, a'r rheiny'n gemau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia, Yr Alban a Croatia ynghyd â gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria.

Wrth glywed am y wobr ddiweddara', dywedodd Bale: "Mae'n anrhydedd mawr derbyn Chwaraewr y flwyddyn gan Gymdeithas y Gohebwyr Pêl-droed.

"Mae'n golygu llawer ennill y wobr hon pan ry'ch chi'n ystyried faint o chwaraewyr sydd wedi sefyll mas dros eu clybiau yn yr Uwchgynghrair y tymor hwn."

Bale yw'r Cymro cynta' i ennill y wobr ers Neville Southall yn 1985.

Bydd yr asgellwr yn derbyn y wobr mewn cinio yn Llundain ar Fai 9.