Bale yn cipio dwy wobr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Gareth Bale wedi ennill dwy wobr fawr y byd pêl-droed.
Bale gafodd ei enwi fel chwaraewr y flwyddyn a chwaraewr ifanc y flwyddyn gan ei gyd-chwaraewyr.
Aelodau'r PFA - Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol - sy'n dewis enillwyr y gwobrau, ac fe gafodd Bale ei enwebu yn y ddau gategori yn gynharach yn y mis.
Ag yntau bellach yn 23 oed, mae Bale wedi sgorio 24 o goliau y tymor hwn, gydag 19 yn yr Uwchgynghrair.
Mae e hefyd wedi sgorio 5 gôl mewn pedair gêm i Gymru y tymor hwn, a'r rheini'n gemau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia, Yr Alban a Croatia ynghyd â gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria.
Yr enwau eraill ar y rhestr fer am y brif wobr oedd Michael Carrick a Robin van Persie o Manchester United, Eden Hazard a Juan Mata o Chelsea, a Luis Suarez o Lerpwl.
Bale enillodd y wobr am chwaraewr y flwyddyn yn 2010/11 hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd11 Medi 2012