Maes awyr i dargedu twristiaid o'r Almaen

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Dusseldorf, Yr AlmaenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cwmni Lufthansa yn hedfan rhwng Düsseldorf a Chaerdydd unwaith yr wythnos

Bydd Maes Awyr Caerdydd yn croesawu'r awyren gyntaf o Düsseldorf ddydd Sadwrn, wrth i benaethiaid twristiaeth yng Nghymru dargedu'r farchnad yn yr Almaen.

Bydd y teithiau wythnosol rhwng Düsseldorf a Chaerdydd yn cael eu cynnig gan gwmni awyr mwyaf Yr Almaen, Lufthansa.

Mae'n dilyn ymgyrch farchnata yn Düsseldorf gan adran dwristiaeth Llywodraeth Cymru, Croeso Cymru.

Dywed y llywodraeth mai'r Almaen fydd un o'u targedau allweddol yn eu strategaeth newydd fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Mwy deniadol

Dyma fydd y cyswllt awyr cyntaf rhwng y ddwy wlad ers i gwmni bmibaby roi'r gorau i'w gwasanaeth rhwng Munich a Chaerdydd yn 2011.

Yn ôl amcangyfrifon swyddogol, mae tua 90,000 o Almaenwyr yn teithio i Gymru ar wyliau ar hyn o bryd.

Y gobaith yw y bydd y daith newydd o Düsseldorf - sydd â phoblogaeth o 20 miliwn yn byw o fewn awr i'r maes awyr - yn golygu y bydd Cymru yn gyrchfan mwy deniadol fyth.

Dywedodd newyddiadurwraig sy'n gweithio yn Berlin, Hannah Cleaver, bod y cyswllt rhwng Düsseldorf a Chaerdydd yn gwneud synnwyr.

"Mae gan Almaenwyr berthynas agos a phositif ag Iwerddon, ac mae hyn yn dilyn yn naturiol o hynny," meddai golygydd y safle newyddion 'The Local, dolen allanol'.

"Mae'r syniad o fynd ar wyliau i wlad werdd a phrydferth yn rhywbeth sy'n apelio'n fawr at yr Almaenwyr, ac rwy'n meddwl bod Almaenwyr yn ymwybodol o Gymru hefyd.

"Fe allai weithio'n dda os yw Cymru'n cael ei gwerthu'n iawn."

Blas o Gymru

Mae'r neges eisoes wedi taro deuddeg gyda chorff fel Croeso Cymru, ac fe fydd yr awyren gyntaf i gyrraedd Caerdydd ddydd Sadwrn â grŵp o drefnwyr gwyliau a newyddiadurwyr o'r Almaen ar ei bwrdd.

Fe fyddan nhw'n cael blas o'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, ac fe ddaeth gair o groeso hefyd gan y Gweinidog Busnes Edwina Hart.

"Hoffwn estyn croeso cynnes i'r rhai sy'n teithio ar yr awyren gyntaf o'r Almaen," meddai. "Mae'r daith newydd yma yn ddatblygiad cyffrous i Faes Awyr Caerdydd."

Mae'r digwyddiad hefyd yn cael ei weld fel hwb i Faes Awyr Caerdydd, a gafodd ei brynu yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn.

Eisoes mae'r maes awyr yn cael ei weddnewid er mwyn hybu diwylliant a threftadaeth Cymru.

Ond mae'r ffigurau diweddaraf ym mis Ebrill yn dangos bod nifer y bobl sy'n defnyddio'r safle wedi disgyn o 15% hyd at fis Mawrth, gan ddisgyn o dan filiwn.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jon Horne: "Rydym yn falch iawn o groesawu Lufthansa i Gaerdydd. Mae cael cwmni sy'n enw da o bwys yn gam pwysig ymlaen i Gaerdydd ac i Gymru.

"Ein gobaith yw y bydd llwyddiant y gwasanaeth cychwynnol yma yn arwain at fwy o wasanaethau rhwng Yr Almaen a Chymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol