Llai na 1m yn hedfan o faes awyr
- Cyhoeddwyd
Am y tro cynta' mewn nifer o flynyddoedd mae nifer y teithwyr o Faes Awyr Caerdydd yn llai na 1m.
Awgrymodd manylion dros dro yr Awdurdod Hedfan Sifil fod 994,885 wedi hedfan yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, hynny yw 15% yn llai na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Yn y cyfamser, mae 6m wedi hedfan o Fryste, gan gynnwys llawer o Gymru.
Cafodd y manylion eu rhyddhau wrth i weinidogion yn y Cynulliad ddweud eu bod ar y trywydd iawn i greu dyfodol newydd ar gyfer Maes Awyr Caerdydd.
Ychydig o wythnosau'n ôl prynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr am £52m.
Rhyddhaodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart dri adroddiad am y maes awyr ond dywedodd nad oedd "rhywfaint o ddeunydd" wedi ei ryddhau am ei fod yn "sensitif yn fasnachol".
Achos busnes
Mae'r gwrthbleidiau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi achos busnes prynu'r maes awyr.
Dywedodd Mrs Hart fod y pris a dlawyd am y maes awyr "yn dderbyniol ar sail y cyngor gwerth am arian gafodd ei dderbyn".
"Rydym wedi gweithredu'n gyflym wrth apwyntio'r Arglwydd Rowe-Beddoe yn gadeirydd a Jon Horne yn brif weithredwr y maes awyr.
"Rydym yn credu y bydd y cyfuniad hwn a chyngor bwrdd profiadol yn arwain at effaith economaidd barhaol."
Dywedodd llefarydd busnes y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott fod angen gwasanaeth bws cyflym o ganol Caerdydd i'r maes awyr.
"Bydd un yn dechrau cyn bo hir o Abertawe i Faes Awyr Bryste a hynny drwy Gaerdydd," meddai.
'Gwella dyfodol'
Mae llefarydd economi Plaid Cymru Alun Ffred Jones wedi dweud eu bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio polisi teithiau awyrennau, gan fanylu ble y bydd mwy o deithwyr a pha gyrchfannau y dylid eu sicrhau.
"Ein prif neges yw bod modd gwella dyfodol y maes awyr fel y gall fod yn hwb i economi'r de a chyflwyno delwedd bositif o'r holl wlad."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth Byron Davies fod y maes awyr yn "degan newydd yn nwylo'r llywodraeth.
"Does dim gwahaniaeth pwy yw'r cadeirydd. Mae angen i'r gweinidog gyflwyno cynlluniau manwl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2013