Mewn llun: Casnewydd v.Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Cefnogwyr Wrecsam yn cyrraedd Wembley ar gyfer y gêm fawr.

Criw o gefnogwyr Casnewydd yn cyrraedd y stadiwm.

Cefnogwyr Casnewydd ar Wembley Way.

Cefnogwr ifanc yn barod am ddyrchafiad.

Yr Alltudion yn dangos eu lliwiau.

Roedd blas Cymreig ar y stondinau gwerthu baneri yn Wembley.

Cefnogwyr Casnewydd yn mwynhau'r awyrgylch y tu mewn i stadiwm Wembley.

Roedd sawl Draig Goch i'w gweld yn y stadiwm.

Roedd ambell gennin Pedr i'w gweld yn yr haul braf.

Fe gafodd 10,000 o gefnogwyr Wrecsam aeth i Wembley eu siomi ar ddiwedd y dydd.

Roedd un pen o'r stadiwm yn fôr o felyn a du.