Y Dinesydd Arlein: Cyflogi golygydd?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Gwenfair Griffith

Mae tim golygyddol papur bro cyntaf Cymru yn ystyried cyflogi golygydd i gydlynu'r gwaith o lawnsio gwefan newydd.

Ond, mae sylfaenydd papur y Dinesydd wedi rhybuddio yn erbyn y cam. Yn ôl Dr Meredydd Evans, mae defnyddio gwirfoddolwyr yn hanfodol i sicrhau dyfodol papurau bro.

Serch hynny, mae'r pwyllgor golygyddol presennol o'r farn y byddai cyflogi golygydd yn hytrach na dibynnu ar wirfoddolwyr yn "help mawr" i'r dyfodol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud eu bod yn cyfrannu £5000 o arian at gynllun i sefydlu gwefan newydd i'r Dinesydd, ac mae Menter Caerdydd hefyd wedi ymuno yn y fenter.

Gobaith y papur yw gwneud cais am grant papurau bro gan Lywodraeth Cymru i godi rhagor o arian yn y dyfodol.

'Cyfrwng bywiog'

Dywedodd Sara Moseley, sy'n gyfarwyddwr datblygu yn ysgol newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd:

"Be da ni eisiau sefydlu ydi cyfrwng bywiog, cyfredol ar rwydweithiau cymdeithasol, ac ar y we, sydd yn rhoi newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau, adolygiadau o'r hyn sydd yn mynd ymlaen yn y brifddinas, barn ffraeth, a chyfle i bobl yn y brifddinas ddod at ei gilydd a chyfrannu at fywyd bywiog a hwyl.

"A da ni eisiau adeiladu ar y pethau yna sy'n mynd ymlaen yn y brifddinas gyda phobl ifanc yn enwedig, oherwydd dwy'n credu bod yr hen ddulliau o gyfathrebu falle ddim yn rhywbeth mae pobl ifanc yn eu defnyddio.

"Felly mae'n eithriadol o bwysig bod ffynonellau digidol ar gael iddyn nhw a'u bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n perchnogi'r ffynonellau yna.

"Mae 'na 36,000 o bobl sy'n siarad Cymraeg yn y brifddinas, ac ar hyn o bryd does dim byd ar gael ar eu cyfer nhw sydd yn wasanaeth lle maen nhw'n gallu bwydo mewn a defnyddio gwybodaeth er mwyn llunio bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas."

"Be ydan ni'n siarad am fan hyn, ydi gwasanaeth i'r gymuned wedi'i chreu gan y gymuned."

'Edrych i'r dyfodol'

Mae'r tîm yn gobeithio denu gwirfoddolwyr newydd, yn fyfyrwyr a thrigolion lleol ym mhob cwr o Gaerdydd i helpu cynnal y wefan newydd. Ond, yn ôl Sian Parry-Jones o'r tîm golygyddol presennol, maen nhw hefyd yn ystyried cyflogi golygydd am y tro cyntaf:

"Falle mai dyna'r ffordd i fynd, ac eto dydyn ni ddim eisiau colli cyfraniadau pobl sydd wedi bod yn helpu cynnal y Dinesydd hyd yma.

"Os allwn ni ffeindio ffordd ariannol, neu drwy gydweithio gyda menter Caerdydd a'r Brifysgol i benodi rhywun i gymryd gofal am olygu'r Dinesydd yn rheolaidd, byddai hynny'n help mawr i ni wrth edrych ymlaen i'r dyfodol."

Ond, ers 40 mlynedd, gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal y Dinesydd. Mae Dr Meredydd Evans, fu'n gyfrifol am gyhoeddi'r rhifyn cyntaf ym mis Ebrill 1973, yn cofio'r heriau oedd ynghlwm â hynny.

"Yn fy ffeiliau, mae gen i nodiadau am yr argraffu - yr anawsterau roedden ni'n cael ynglŷn â chael rhywun fasa'n argraffu yn ddigon rhad. Mae rhywun yn cofio am y broblem o ffurf y papur, pa mor ddeniadol fydda' fo o ran ei ffurf. Oedd 'na luniau yn mynd i fod? Os oedd 'na - pwy oedd yn mynd i dynnu'r lluniau? Odd 'na gymaint o fanylion, fel ei fod o'n rhyfeddol yn y pendraw bod hwn wedi cael ei gynhyrchu."

"Tae chi wedi gofyn i mi nol yn 1973, a fyddai fo yn dal i fod yn 2013, dwy ddim yn siŵr beth fasa fy ateb i wedi bod."

'Un amod'

Tra'i fod yn cefnogi'r syniad o greu gwefan rhyngweithiol newydd i'r Dinesydd, mae'r cam o gyflogi golygydd yn wrthun i Meredydd Evans.

"Dwi drosto fo.... ar un amod.... nad ydi o ddim yn mynd i olygu cyflogi arbenigwyr ar gyfer y busnes. Y cwbl sy' gynnoch chi isio ydi pobl sy'n caru eu hiaith, ac sydd yn benderfynol o neud y peth weithio.

"Mae eisiau i'r egwyddor o wirfoddolrwydd i fod yno oherwydd ei bod hi'n angenrheidiol i weithredu cymdeithas wâr dda.

"Mae pwysigrwydd gwirfoddoli, mae'n codi safon ac ansawdd y gymdeithas 'da chi'n byw ynddi - pobl sydd yn gwneud pethau am eu bod nhw'n caru eu gwneud nhw ac am fod ganddyn nhw werthoedd arbennig ac eisiau rhoi'r gwerthoedd hynny ar waith yn y gymdeithas."

Cadw fersiwn papur

Ond yn ôl Sian Parry-Jones o dîm golygyddol y Dinesydd, mae'n hen bryd cael newid er mwyn sicrhau dyfodol y papur,

"Mae lot o ddeunydd yn dod gan gyfranwyr selog sy'n cyfrannu bob mis, ond mae'r pwyllgor yn ymwybodol iawn fod angen ehangu'r cynnwys a'i gwneud hi'n fwy deniadol falle i ddarllenwyr newydd er mwyn sicrhau dyfodol y papur yn fwy na dim."

Eto, does dim bwriad i gael gwared â'r fersiwn papur o'r Dinesydd chwaith.

"Mae'n bwysig bod ni yn cadw'r papur ar ffurf papur newydd dwi'n meddwl. Mae lot o'n darllenwyr ni - fel 'na maen nhw'n disgwyl ac eisiau darllen eu newyddion nhw a gweld straeon am beth sy'n digwydd yn y ddinas yma.

"Y gamp yw peidio colli'r darllenwyr presennol, ac eto denu darllenwyr newydd ar yr un pryd."

Mae 'na drafodaeth am newid enw'r Dinesydd, ond 'Y Dinesydd Arlein' yw'r enw ar gyfer y wefan ar hyn o bryd. Mae disgwyl iddi gael ei lansio yn ystod gŵyl Tafwyl ym mis Mehefin.

Newyddion 9, S4C am 9:00pm dydd Llun i ddydd Gwener.

Hefyd gan y BBC