Adolygiad i lofruddiaeth Daniel Morgan

  • Cyhoeddwyd
Daniel MorganFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Daniel Morgan ei lofruddio yn Llundain yn 1987

Mae disgwyl i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi adolygiad annibynnol i lofruddiaeth ditectif preifat oedd yn hannu o Gymru.

Cafodd Daniel Morgan ei ladd gyda bwyell yn ne Llundain yn 1987.

Mae chwe ymchwiliad troseddol wedi methu â dod o hyd i'w lofrudd.

Mae honiadau mai llygredd o fewn yr heddlu sydd wedi atal Heddlu Llundain rhag dwyn achos llwyddiannus.

Mae disgwyl i'r adolygiad edrych ar ddogfennau'r heddlu, a bydd wyslais ar hybu dealltwriaeth y cyhoedd o'r achos.

Camgymeriadau

Ond byddai unrhyw drywydd newydd yn yr achos yn cael ei ymchwilio gan Scotland Yard.

Cafodd corff Daniel Morgan, yn wreiddiol o Lanfrechfa ger Cwmbrân, ei ddarganfod yn farw yn Sydenham, Llundain, yn 1987.

Roedd rhywun wedi ymosod arno mewn maes parcio tafarn, a chafodd ei adael yno gyda bwyell yn ei ben.

Cafodd achos yn erbyn tri dyn, oedd wedi'u cyhuddo o'i lofruddio, ei ddirwyn i ben wedi honiadau fod yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gwneud camgymeriadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref ddydd Mercher:

"Mae trafodaethau'n parhau gyda'r teulu ac rydym yn gobeithio gwneud datganiad yn fuan."