AC yn codi pryderon am ddiodydd egni
- Cyhoeddwyd
Mae AC wedi codi pryderon am y ffordd mae cwmnïau yn marchnata diodydd sydd yn rhoi egni i unigolyn ymhlith plant a phobl ifanc.
Mae'r aelod Llafur Jenny Rathbone yn cynnig y dylai'r Cynulliad gydnabod bod hyn yn fater o bryder ar gyfer iechyd y cyhoedd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth.
Ar hyn o bryd dyw gwerthu diodydd fel y rhain ddim wedi eu rheoleiddio sydd yn golygu y gallan nhw gael eu gwerthu i unrhyw un.
Mae un can yn medru cynnwys cymaint â 160mg o gaffine ynddo ac mae gwledydd fel Canada a Mecsico wedi cymryd camau i reoli labelu'r diodydd ac i reoli eu gwerthiant.
Effaith ar y corff
Dywedodd Jenny Rathbone: "Mae gwaith ymchwil yma ac yn Ewrop wedi cadarnhau bod hyn yn broblem enfawr.
"Mae canran o bobl ifanc sydd yn gaeth i'r stwff yma, yn ei yfed e ar y ffordd i'r ysgol ac yn ystod eu hawr ginio. Mae pobl sydd yn gweithio gyda phlant yn dweud y gall e gael effaith tymor hir ar eu hymddygiad.
"Mae angen mwy o waith ymchwil ar yr effaith ar iechyd yn y tymor hir ond mae'n destun pryder bod yna gred bod caffine yn effeithio ar faint o haearn a chalsiwm sydd yn cael ei amsugno i'r corff. Dw i'n credu bod y cod gwirfoddol gan y diwydiant diodydd i beidio targedu plant yn cael ei anwybyddu yn llwyr."
Cyflwynodd yr Aelod Cynulliad ar gyfer Canol Caerdydd y cynnig ar lawr y senedd bnawn Mercher.
Dadl gan Aelod Unigol oedd y cynnig - cyfle i'r gwleidyddion i drafod pwnc sydd o bwys i'w hetholwyr a chodi'r mater yn y siambr.
Derbyniodd Jenny Rathbone gefnogaeth trawsbleidiol i'r cynnig.