Pryder am gost tân y llyfrgell
- Cyhoeddwyd
Fe fydd yn costio tua £5 miliwn er mwyn atgyweirio'r Llyfrgell Genedlaethol yn dilyn tân yno fis diwethaf.
Fe gafodd to'r adeilad ei ddifrodi'n sylweddol.
Mae rheolwyr yn Aberystwyth mewn trafodaethau gyda chwmnïau yswiriant a Llywodraeth Cymru am y bil.
Mae'n dilyn ymchwiliad lle canfuwyd bod y tân wedi ei gynnau'n ddamweiniol drwy weithwyr yn defnyddio lamp losgi.
Yn y cyfamser bydd rhestr o'r eitemau a ddinistriwyd yn cael ei chyflwyno i fwrdd ymddiriedolwyr y Llyfrgell yr wythnos nesaf.
Cafodd rhai darnau o gasgliad hanesyddol a gafodd ei ddifrodi gan ddŵr a ddefnyddiwyd i ddiffodd y tân eu symud i Rydychen gan dîm o arbenigwyr.
'Disgwyl asesiad'
Dywedodd Arwel Jones, cyfarwyddwr gwasanaethau cyhoeddus y Llyfrgell: "Yr amcangyfrif ar hyn o bryd yw rhwng £4 a £5 miliwn.
"Fe fyddwn ni'n holi'r cwmnïau yswiriant, ond rydym yn siarad â Llywodraeth Cymru hefyd."
Eisoes mae Gweinidog Treftadaeth wedi addo cefnogaeth i'r llyfrgell mewn "cyfnod anodd".
Fe welodd John Griffiths y difrod ar ymweliad diweddar â'r llyfrgell.
Ddydd Iau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i gael gweld maint y difrod, gan ddweud:
"Rydym yn ymwybodol bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ynglŷn â'r tân yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac achos tebygol y tân.
"Rydym yn disgwyl am asesiad o'r difrod i'r adeilad a'r casgliadau oedd ynddo gan arbenigwr.
"Rhaid cael y wybodaeth yma cyn y gallwn ni gadarnhau cyfrifoldeb ariannol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad agos â'r llyfrgell wrth iddo barhau i reoli ac ymateb i'r digwyddiad yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2013
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2013