Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr yn y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol yn codi amheuon am honiadau Llywodraeth Cymru bod modd diwygio gwasanaethau cymdeithasol heb olygu costau uwch i'r trethdalwr.
Dywed gweinidogion y llywodraeth bod deddfwriaeth sy'n rhoi hawliau newydd i ofalwyr yn niwtral o safbwynt cost.
Yn ôl y gweinidog sy'n gyfrifol, "does dim mwy o arian" ar gael i redeg y system.
Ond daeth galwadau am fwy o fanylion am sut y bydd y diwygiadau'n gweithio, a phwy fydd yn gymwys i dderbyn pa fath o gymorth.
Mwy yn gymwys
Bydd y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), sydd wedi ei gynllunio i symleiddio'r cyfreithiau sy'n rheoli gofal cymdeithasol, yn gorfodi cynghorau i asesu anghenion gofalwyr.
Mae'r mesur yn diddymu amod mai dim ond gofalwyr sy'n darparu "gofal sylweddol a chyson" sydd yn gymwys gan olygu y bydd mwy yn gymwys i dderbyn cymorth.
Wedi cyfnod asesu, gall gweithwyr ddod i mewn i roi amser i ffwrdd i ofalwyr neu gynorthwyo o gwmpas y tŷ. Gall hefyd arwain at daliadau uniongyrchol i ofalwyr fel y gallan nhw benderfynu pa gymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae'r mesur yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur, a'r bwriad yw gwneud newidiadau "radical" i wasanaethau cymdeithasol mewn cyfnod lle mae mwy o alw amdanynt wrth i'r boblogaeth heneiddio.
Ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLC) wedi amau honiadau gweinidogion y bydd y newidiadau yn niwtral o safbwynt cost i'r pwrs cyhoeddus.
'Her i wasanaethau cyhoeddus'
Mewn datganiad diweddar, dywedodd lefarydd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol CLLC, Mel Nott: "Does dim posib i'r mesur yma fod yn niwtral o safbwynt cost yn enwedig mewn cyfnod o grebachu cyllidebau."
Bydd y meini prawf i benderfynu pwy fydd yn gymwys i dderbyn gofal cymdeithasol yn cael eu pennu wedi i'r mesur gael ei basio.
Mae aelodau cynulliad y gwrthbleidiau wedi beirniadu diffyg eglurdeb, ac mae ffynonellau o fewn i'r GIG yn dweud nad oes modd barnu'r costau ar hyn o bryd.
Wrth siarad gyda phwyllgor iechyd y Cynulliad, dywedodd cyfarwyddwr Cydffederasiwn GIG Cymru Helen Birtwhistle: "Fe fyddwn i hefyd yn cwestiynu os oes modd i hyn fod yn gost-niwtral.
"Mae ein cydweithwyr yn CLLC yn edrych ar y costau a'r asesiad ariannol o hynny. Rwy'n credu y bydd hwnnw'n ddarn pwysig o waith.
"Does dim angen dweud bod yr hinsawdd economaidd yn parhau i fod yn her i wasanaethau cyhoeddus, boed hynny'n wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu'r trydydd sector."
'Fframwaith cadarnach'
Dywedodd Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Gwenda Thomas: "Mae tystiolaeth nad yw'r model presennol o ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gynaliadwy.
"Mae'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ymateb i hyn ac yn ceisio gosod fframwaith cadarnach mewn lle fydd yn para cenhedlaeth.
"Mae'n dilyn ei bod yn gwbl angenrheidiol i'r mesur yma fod yn niwtral o safbwynt cost yn y tymor hir.
"Does dim arian ar gael, a fedrwn ni ddim cyfnewid y fframwaith presennol am un sy'n costio mwy."
Ychwanegodd ei bod yn hyderus y byddai modd canfod arbedion drwy "integreiddio pellach o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a dull arall o asesu gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2013