Achub Y Cyfnod

  • Cyhoeddwyd
Papur wythnosol Y Cyfnod

Mae papur newydd Y Cyfnod wedi cael ei brynu gan sicrhau dyfodol i'r wythnosolyn dwyieithog yn ardal Penllyn.

Perchennog, a golygydd, newydd y papur yw Mari Williams, sydd ar hyn o bryd yn rhedeg ei chwmni gwasanaethau cyfathrebu ei hun, Mari Williams PR.

Mae ganddi gefndir mewn newyddiaduraeth - bu'n gweithio i gwmni Golwg yn Llanbedr Pont Steffan ac yn awdur colofn yn y Western Mail cyn mynd i weithio fel Rheolwr Cyfathrebu BBC Cymru.

Dywedodd Mrs Williams: "Rydw i wrth fy modd o gael cymryd yr awenau."

"Mae'r Cyfnod a'i gyd-bapur y Corwen Times yn ganolog i fywyd yr ardal, yn ffynhonnell newyddion a gwybodaeth ac yn destun sgwrs yn wythnosol.

"Roedd yna gonsyrn mawr am ddyfodol y papur, a 'dwn i ddim sawl sgwrs glywais i am y golled fyddai petai'r papur y diflannu.

"Dwi'n mawr obeithio bod hwn yn ddechrau ar gyfnod newydd. Mae'n her enfawr i mi yn bersonol ac rwy'n llawn sylweddoli maint yr her o gynnal papur newydd wythnosol yn yr hinsawdd bresennol.

"Mae'r ymateb a'r gefnogaeth wedi bod yn syfrdanol. Fy mlaenoriaeth i ar hyn o bryd yw cael Y Cyfnod yn ôl ar y silffoedd cyn gynted ac y galla i."