Cameron yn ceisio tawelu'r dyfroedd
- Cyhoeddwyd
Mae David Cameron wedi bod yn ceisio codi pontydd gydag aelodau'i blaid sy'n flin wedi honiadau fod cyd-gadeirydd y Ceidwadwyr wedi eu galw yn "swivel-eyed loons".
Honnir fod yr Arglwydd Feldman wedi gwneud hynny yng ngŵydd gohebwyr papur newydd wrth drafod Ewrop.
Mae'r Arglwydd Feldman yn gwadu iddo wneud hynny.
Mae Mr Cameron wedi e-bostio aelodau o'i blaid i ddweud na fyddai byth yn cyflogi rhywun a fyddai'n eu sarhau.
Ond mae aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr yn dweud bod y sylwadau, os yn wir, yn adlewyrchu'r bwlch cynyddol rhwng aelodau cyffredin y blaid a chylch dethol Mr Cameron.
Partneriaethau Sifil
Mae'r tensiynau rhwng Downing Street a charfan sylweddol o aelodau'r Ceidwadwyr ar lawr gwlad wedi dwysau gan y cynlluniau i ganiatáu i gyplau o'r un rhyw briodi.
Fe wnaeth nifer sylweddol o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr bleidleisio o blaid gwelliannau fyddai wedi peryglu'r mesur ddydd Llun.
Cwblhawyd ail ddarlleniad y mesur yn Nhŷ'r Cyffredin gyda chefnogaeth aelodau Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Bydd y mesur yn cael ei drydydd darlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod dydd Mawrth, ond does dim disgwyl cymaint o wrthwynebiad bryd hynny.
Mae gwrthwynebiad pellach yn bosib pan aiff y mesur i Dy'r Arglwyddi ddydd Mercher, ac os yw'r Arglwyddi yn newid y mesur bydd angen i'r newidiadau hynny gael eu cymeradwyo gan ASau.
Yn ei e-bost, dywedodd Mr Cameron na fyddai aelodau'r blaid yn cytuno ar bopeth, ac y byddai yna wastad "feirniadaeth o'r cyrion".
Ond fe'u hanogodd i ganolbwyntio ar yr hyn sydd ganddyn nhw'n gyffredin ac ar y darlun mawr gan ddweud ei fod yn "falch" o'r gwaith roedden nhw wedi ei wneud ac am eu "cyfeillgarwch dwfn a hirhoedlog" gydag e.
'Sbwriel'
Ddydd Sul, wrth drafod yr honiad am "swivel-eyed loons", gwadodd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies fod yna hollt o fewn y blaid geidwadol, tra'n rhybuddio'r blaid i beidio anwybyddu'r safbwyntiau a goleddir ar lawr gwlad.
Roedd yn dweud y byddai ef ei hun yn perthyn i gategori y "swivel-eyed loon, fruitcake" oherwydd ei wrthwynebiad i briodas ar gyfer cyplau o'r un rhyw, a'i gefnogaeth i refferendwm ar Ewrop.
Dywedodd fod pobl a berthynai i'r categori hwnnw wedi bod yn iawn yn y gorffennol, er enghraifft yng nghyd-destun eu rhybuddion am yr Ewro.
Ond fe wrthododd David Davies unrhyw awgrym bod yna fwlch cynyddol rhwng arweinyddiaeth y Ceidwadwyr a chymdeithasau lleol gan ddisgrifio unrhyw awgrym fod yna ryfel rhyngddynt fel "sbwriel llwyr".