Cam nesaf cynllun fferm wynt
- Cyhoeddwyd
Mae Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth y DU yn archwilio cynlluniau i godi 32 o dyrbinau gwynt mewn coedwig yn Sir Ddinbych.
Mae swyddogion yn gwahodd grwpiau sy'n erbyn y datblygiad a grwpiau eraill â diddordeb i gyflwyno'u barn am y cynlluniau yng nghoedwig Clocaenog ger Rhuthun.
Cafodd y cynlluniau eu crybwyll gyntaf yn 2009 ond rhaid iddyn nhw fynd drwy sawl cam yn y broses gynllunio.
Bydd swyddogion yn paratoi adroddiad yn sgil cyfnod ymgynghori cyn i weinidogion ei ystyried.
Mae aelodau o grwp Clocaenog Yn Erbyn Tyrbinau Gwynt yn gwrthwynebu gosod mwy o dyrbinau yn yr ardal ehangach, gan ddweud eu bod am warchod y goedwig.
Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio chwe mis i gynnal ymchwiliadau, ac mae gan bobl tan Fehefin 12 i gofrestru'n ffurfiol er mwyn cael cyfle i ddweud eu dweud.
Mae'r arolygiaeth yn asiantaeth yn Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol sy'n gyfrifol am archwiliad cyhoeddus o gynlluniau datblygu.
Dywed RWE nPower Renewables y gallai tyrbinau yn y goedwig gynhyrchu digon o ynni i gyflenwi anghenion hyd at 40,800 o gartrefi.
Mae'r cwmni wedi sefydlu gwefan bwrpasol, dolen allanol i ddarparu'r newyddion diweddaraf ac eglurhad o'r broses fydd yn effeithio ar goedwig Clocaenog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013