Dadlau'r achos dros ynni gwynt

  • Cyhoeddwyd
Tyrbinau gwyntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn honni y gallai ynni gwynt gynhyrchu £2.3 biliwn o werth gros i'r eonomi rhwng eleni a 2050

Mae adroddiad newydd yn honni y gallai ffermydd gwynt ar y tir gynnig "cyfleoedd economaidd sylweddol" i Gymru.

Yn ôl y gwaith, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a RenewableUK Cymru, gallai'r diwydiant gyfrannu £2.3 biliwn o werth gros i'r economi rhwng 2012 a 2050 petai targedau'r llywodraeth yn cael eu cyflawni.

Mae'r llywodraeth yn anelu at gael Cymru i gynhyrchu 2,000 megawat o ynni gwynt erbyn 2025.

Gallai'r buddsoddiad hefyd, meddai'r adroddiad, gynnal dros 2,000 o swyddi pob blwyddyn dros yr un cyfnod mewn swyddi adeiladu, gweithredol, rheoli, dadgomisiynu ac ailbweru'r tyrbinau.

Ar y llaw arall, mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai'r cyfraniad i'r economi ostwng i lai nag £1 biliwn rhwng nawr a 2050 os bydd lefel cynhyrchu ynni gwynt yn parhau ar yr un lefel ag y mae nawr.

Rhwng 2001 a 2011, mae'r sector wedi cynnal 1,000 o swyddi bob blwyddyn.

Targedau

Meddai Dr David Clubb, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru: "Mae'r adroddiad yn dangos y gall ynni gwynt ar y tir greu budd economaidd sylweddol i Gymru a'n helpu i ddatblygu yn genedl fwy cynaliadwy.

"Fe allwn ni ond elwa o'r cyfle os yw'r diwydiant yn gallu cwrdd â thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni gwynt ar y tir, sy'n golygu cynhyrchu llawer mwy.

"Heb gynnydd sylweddol yn y ceisiadau ffermydd gwynt sy'n cael eu caniatàu, a heb newid cyffredinol yn y polisïau cynllunio o fewn y sector yma yng Nghymru, byddwn yn parhau i ddiodde' yn sgil pris cynyddol tanwydd ffosil a fyddwn ni ddim yn gallu cwrdd â'r targedau ynni adnewyddol ac yn colli'r cyfle i greu bywoliaeth i dros ddwy fil o bobl yng Nghymru bob blwyddyn."

Yn ôl Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths: "Mae'r adroddiad yma'n rhan bwysig o'r dystiolaeth fod lefelau carbon isel nid yn unig yn hanfodol o ran yr amgylchedd, ond hefyd yn gyfle economaidd sylweddol i Gymru.

"Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda'r diwydiant i weld sut y gellir sicrhau bod y swyddi a'r budd economaidd yn cael eu gwireddu fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol