Cynghorwyr Ynys Môn yn cymeradwyo parc solar

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Iolo ap Dafydd

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn wedi cymeradwyo cais i godi parc solar ar Stad Bodorgan.

Cafodd y cais ei gymeradwyo'n unfrydol gan aelodau'r pwyllgor, ond fe osodwyd un amod ar y caniatâd, sef bod gwaith archeolegol pellach yn cael ei wneud ar un safle lle bydd y paneli solar yn cael eu gosod.

Doedd neb yn y cyfarfod wedi siarad yn erbyn y cais.

Ond yn yr un cyfarfod, gwrthododd y pwyllgor gymeradwyo dau gais am dyrbinau gwynt ar yr ynys.

Roedd un ar gyfer tyrbin 46 metr o uchder ar fferm ger Penmynydd, a'r llall yn un 62 metr ger Brynsiencyn.

Daeth nifer o brotestwyr i'r cyfarfod i wrthwynebu'r tyrbinau unigol.

Argymhelliad

Bydd y cynllun parc solar yn creu digon o drydan ar gyfer 4,500 o gartrefi yn flynyddol, ac yn cysylltu â'r Grid Cenedlaethol drwy'r gwifrau presennol.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd bron 10,000 o baneli solar eu gosod ar safle chwe erw yn Sir Benfro

Roedd swyddogion cynllunio'r ynys wedi argymell rhoi caniatâd i'r datblygwr, New Forest Energy, i godi'r paneli ynni haul.

Fe fydd y safle yn defnyddio 64,000 o baneli solar i greu 15 MW (megawatt) o bŵer.

Ym mis Rhagfyr, dywedodd llywodraeth y DU bod ynni solar yn allweddol er mwyn cwrdd â thargedau ynni adnewyddol yn y dyfodol.

Y nod yw sicrhau bod 15% o ynni'r DU yn dod o ffynonellau adnewyddol erbyn 2020.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol