Hybu aps: arian gan y Gweinidog
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Addysg y llywodraeth wedi bod ar faes yr Urdd i gyhoeddi cronfa newydd gwerth £750,000 tuag at hybu'r defnydd o'r Gymraeg ar y we.
Roedd Leighton Andrews yn ymfalchïo o gael bod yn Sir Benfro ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos o gystadlu a "blasu awyrgylch yr ŵyl arbennig yma".
Denu'r ifanc
Wrth lansio'r cyllid newydd, eglurodd y gweinidog mai'r nod yw denu mwy o bobl, a phobl ifanc yn arbennig, i ddefnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Dwi'n falch o gyhoeddi bydd tri chwarter miliwn o bunnau i hybu technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg," meddai ar fore cyntaf yr eisteddfod gan ychwanegu mai'r nod yw i "annog a hybu'r argaeledd a'r defnydd o dechnoleg Gymraeg".
Mae gan y gronfa gyllideb flynyddol o £250,000 a fydd yn darparu grantiau dros gyfnod o dair blynedd i gwmnïau ddatblygu technoleg.
Bydd y mentrau sy'n gymwys i gael y grant yn datblygu aps Cymraeg ac yn creu mwy o ddeunydd ar y we yn Gymraeg a meddalwedd cyfrwng Cymraeg fel meddalwedd adnabod llais.
"Mae ap newydd yr Urdd yn enghraifft dda o ddefnydd technoleg," meddai'r gweinidog.
"Wrth gwrs, dw i wedi lawr lwytho yr ap, mae'n bwysig i ddefnyddio'r ap."
Aps yn bwysig i'r iaith
Mae'r ap newydd wedi ei ddatblygu ar gyfer yr eisteddfod yn Sir Benfro ac yn cynnwys amserlen y cystadlu, canlyniadau a chlipiau, gweithgareddau, map a'r gallu i greu amserlen bersonol ar gyfer yr wythnos.
"I sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu yn yr 21ain ganrif a bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cyfrannu'n llawn fel dinasyddion digidol, rhaid i ni wneud yn siŵr bod technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg ar gael yn hawdd," meddai Mr Andrews.
"Ni allwn ganiatáu i'r iaith Gymraeg gael ei gadael ar ôl gan y technolegau diweddaraf.
"Yn hytrach, dylem ddefnyddio'r adnoddau digidol hyn fel ffordd o ddangos bod yr iaith yn gyfrwng perthnasol, modern a chreadigol.
"Mae'n galonogol gweld bod yna gymuned weithgar o siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio'n galed i ddatblygu mwy o gynnwys digidol Cymraeg fel 'apps', gemau a fersiynau digidol o bapurau bro."
Lansiwyd y gronfa mewn cydweithrediad â'r Cynllun Gweithredu Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg ac mae modd gwneud cais am grant o'r Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg ar wefan llywodraeth Cymru.
Mae'r gweinidog eisoes wedi cyhoeddi nawdd o £800,000 i'r Urdd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Canmol yr Urdd
Ar y maes, canmolodd Mr Andrews waith y sefydliad gan ddweud ei fod yn, "waith arloesol i alluogi plant a phobl ifanc i fyw yn y Gymraeg".
Roedd yn ategu geiriau prif weithredwr yr Urdd, Efa Gruffydd Jones a eglurodd bod y sefydliad yn gweithio ar nifer o brosiectau "difyr a diddorol" i blant ddefnyddio'u Cymraeg, gan gynnwys cyrsiau dwys arbennig i ddysgwyr yng ngwersyll Glan Llyn ar y cyd â'r llywodraeth.
"Mae'r Urdd yn awyddus iawn i chwarae ei rhan i wneud yn siŵr bod gan blant a phobl ifanc gyfle i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg."