Comisiynydd i adolygu cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
HenoedFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Rochira eisiau clywed am brofiadau pobl sydd yn byw mewn cartrefi gofal

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi y bydd hi'n cynnal adolygiad o gartrefi gofal.

Y bwriad yw gweld os oes gyda phobl sydd yn byw mewn cartrefi gofal ansawdd da o fywyd.

Er bod Sarah Rochira yn dweud eu bod wedi dod ar draws nifer o arferion da mae'n dweud hefyd bod angen mwy o gysondeb ar draws Cymru.

Yn ystod yr adolygiad bydd lleisiau pobl hŷn, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cael eu clywed.

Bydd y Comisiynydd a'i thîm hefyd yn siarad gyda chynghorau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Darparwyr Cartrefi Gofal, Rheoleiddwyr ac Arolygwyr.

Argymhellion

Ar ol i'r dystiolaeth gael ei gasglu bydd y comisiynydd yn tynnu sylw at y gofal da sydd yn digwydd yn y cartrefi. Ond fe fydd hi hefyd yn son am unrhyw welliannau sydd angen digwydd ac yn cyflwyno argymhellion.

Dywedodd Sarah Rochira: "Ers i mi ddechrau yn fy swydd, rwyf wedi siarad llawer am yr angen i wneud yn siŵr bod pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru'n ddiogel, yn derbyn gofal da a bod ganddyn nhw ansawdd bywyd da.

"Rwyf wedi ymweld â nifer o gartrefi gofal ac wedi gweld llawer o arferion da hyd a lled Cymru drosof fy hun, ond rwyf wedi sôn sawl tro am fy mhryderon nad yw hyn yn gyson ac nad ydyn ni'n cael pethau'n iawn i bawb.

"Rhaid i ni gofio bod cartref rhywun yn llawer mwy na brics a mortar, dyma ble dylech chi deimlo'n ddiogel a bod yn ddiogel, ble dylech chi dderbyn gofal da a bod yn hapus."

Disgwyl bywyd da mewn cartref

Ychwanegodd y comisiynydd mae'r bobl sydd yn byw yn y cartrefi fydd 'wrth galon' unrhyw argymhellion ac y dylen nhw ddisgwyl cael ansawdd bywyd da wrth fyw mewn cartref gofal:

"Gadewch i ni gofio nad grŵp ar wahân yw pobl hŷn, ond ein mamau, ein tadau, ein teuluoedd, ein ffrindiau, rhai sy'n annwyl i ni. Mae gan bob un yr hawl i gael y gofal gorau posibl, ond yn fwy na hynny, y bywydau gorau posibl."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol