Gofal brys: Mwy yn aros am dros 8 awr
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth fwy o bobl aros wyth awr neu fwy cyn cael eu gweld mewn adrannau brys ym mis Mawrth eleni nac erioed o'r blaen o dan y system bresennol.
Roedd rhaid i 6.7% o gleifion aros am o leiaf wyth awr cyn cael eu gweld - targed y llywodraeth yw bod 99% o gleifion yn cael eu gweld mewn llai nac wyth awr.
Roedd y ganran o gleifion gafodd eu gweld mewn llai na phedair awr hefyd yr ail isaf ers i'r byrddau iechyd gael eu had-drefnu yn Hydref 2009.
Mae'r gwrthbleidiau wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "gwarthus" ac "annerbyniol, ond mae'r llywodraeth yn mynnu mai cleifion oedrannus gyda "anghenion cymhleth" sy'n gyfrifol.
Y ffigyrau yma yw'r trydydd set i gael eu rhyddhau yr wythnos hon sy'n dangos bod y llywodraeth wedi methu a chyrraedd eu targedau.
Cafodd targedau amseroedd canser eu methu er i'r llywodraeth addo y bydden nhw'n cael eu cyrraedd erbyn mis Mawrth a mae targedau ymateb ambiwlansys yn parhau i gael eu methu.
Nid yw'r targedau wedi cael eu cyrraedd yr un waith ers i Carwyn Jones gael ei wneud yn brif weinidog yn Rhagfyr 2009.
Roedd y ganran oedd yn cael eu gweld o fewn wyth awr ym mhob un o bedwar mis cyntaf 2013 yn is nac unrhyw fis drwy gydol 2012 a 2011.
Roedd yna hefyd wahaniaeth sylweddol rhwng perfformiadau'r byrddau iechyd.
Cafodd llai na 80% o bobl eu gweld mewn llai na pedair awr yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf ym mis Mawrth - y ffigwr ar gyfer Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan oedd 90%.
Bwrdd iechyd ardal Powys yw'r unig un sydd wedi bod yn taro'r targedau'n gyson, ond does dim adran gofal brys mawr yn yr ardal.
'Annerbyniol'
Yn siarad am y ffaith bod y targedau wedi eu methu, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar: "Mae'n amhosibl gorbwysleisio'r gofid a'r anghysur a achosir i gleifion trwy wneud iddynt aros mewn adrannau achosion Brys am dros wyth awr. Ni ddylai unrhyw glaf orfod aros mor hir i gael eu gweld gan glinigydd.
"Mae un o bob saith o gleifion sy'n mynychu unedau gofal brys nawr yn aros mwy na phedair awr i gael eu gweld. Mae hyn yn annerbyniol ac yn arwain at ambiwlansys yn ciwio tu allan i'r ysbytai, gan eu hatal rhag ymateb i argyfyngau."
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones: "Wedi pedair blynedd ar ddeg di-dor o reolaeth Lafur, mae ein hysbytai bron â thorri, ein meddygon a'n nyrsys wedi eu hymestyn i'r eithaf, ac yr ydym yn wynebu posibilrwydd symud gwasanaethau allweddol o ysbytai lleol.
"Mae lleihau capasiti yn wiriondeb llwyr, a dyna pam mae Plaid Cymru yn ymladd i gadw gwasanaethau a all achub bywydau mewn ysbytai lleol."
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn "warthus" yn ôl Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams: "Mae'r ffigurau hyn yn warthus ac yn tynnu sylw pellach ynglŷn â pha mor wael mae llywodraeth Lafur Cymru wedi camreoli ein gwasanaeth iechyd.
"Gan nad yw targedau gofal brys Llywodraeth Lafur Cymru erioed wedi cael eu cyrraedd, byddem yn disgwyl bod o leiaf arwyddion o welliant cyson.
Ond yn anffodus, mae hynny'n bell o fod yn wir. Y ffigurau ar gyfer mis Mawrth yw'r gwaethaf maen nhw wedi bod am dros flwyddyn."
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae posib cysylltu'r pwysau ar wasanaethau gofal gyda chynnydd yn y nifer o gleifion oedrannus sydd yn ddifrifol wael, sydd ag anghenion cymhleth. Mae'r cleifion yn aml yn dioddef o nifer o gyflyrau a all arwain at aros am gofnod hirach yn yr ysbyty.
"Mae'r pwysau cyfredol ar wasanaethau gofal brys yn broblem ledled y DU, ond mae'n bwysig nodi mai yng Nghymru y mae'r gyfran fwyaf o bobl dros 85 oed.
"Mae'r Gweinidog Iechyd yn cydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau darpariaeth gofal heb ei drefnu, ac mae wedi datgan yn glir bod gwella'r gwasanaethau hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud fod gan y cyhoedd ran i'w chwarae er mwyn lleihau'r amser mae pobl yn disgwyl am driniaeth: "Mae gan y cyhoedd hefyd ran bwysig i'w chwarae o ran lleddfu pwysau ar wasanaethau gofal brys ac rydym yn cael eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaeth gofal iechyd mwyaf priodol i'w anghenion a meddwl cyn mynychu unedau gofal brys neu ddeialu 999."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2012