Taid a nain: "Carchar yn rhy dda i Bridger"

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Byd ar Bedwar
Disgrifiad o’r llun,

Y llun olaf i Dai a Linda Smith ei dynnu o'i hwyres April Jones, ar draeth Cei Newydd, Ceredigion

Mae taid a nain April Jones yn dweud bod carchar "yn rhy dda" i Mark Bridger.

Cafodd y dyn 47 oed o bentref Ceinws ger Machynlleth ei garcharu am oes ddydd Iau ar ôl i reithgor yn llys y goron Yr Wyddgrug ei gael e'n euog o lofruddio'r ferch fach 5 oed.

Ond mae Dai Smith, taid April, yn dweud y dylai'r gosb eithaf gael ei hail gyflwyno ar gyfer troseddwyr fel Bridger.

Mae Mr Smith a'i wraig Linda yn trafod eu colled mewn cyfweliad ar S4C.

Cafodd April Jones ei chipio wrth chwarae gyda ffrindiau ger ei chartref ym Machynlleth ar 1 Hydref 2012. Roedd yr erlyniad yn honni mai cymhelliad rhywiol oedd tu ôl i'r ymosodiad gan ei fod wedi bod yn edrych ar ddelweddau anweddus o blant ar ei gyfrifiadur yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Dyw corff April Joned ddim wedi cael ei ddarganfod.

Cafodd Bridger ei ddisgrifio gan y barnwr fel "celwyddgi patholegol" a "phedoffeil" cyn dyfarnu y dylai dreulio gweddill ei fywyd dan glô. Mae hon yn ddedfryd anghyffredin sydd fel arfer yn cael ei rhoi i'r troseddwyr gwaethaf yn unig.

Ond mae Mr Smith o Gei Newydd, Ceredigion yn dweud ar raglen Y Byd ar Bedwar ddydd Sul bod "carchar yn rhy dda iddyn nhw".

Mr Smith yw llys dad Paul Jones, tad April.

"Rwy'n credu y dylen nhw ddod a chrogi yn ol neu'r chwistrelliad neu rywbeth. Ond rwy'n credu y dylen nhw ddioddef gynta .. fel yr oedd yn rhaid iddi hi ddioddef."

Ffynhonnell y llun, Byd ar Bedwar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dai a Linda Smith yn dweud na fyddan nhw byth yn dod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd i April Jones.

Cytunodd ei wraig Linda na fyddai unrhyw gosb yn gwneud iawn am eu colled o golli wyres, ac na fyddai'r teulu fyth yn dod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd Linda Smith: "Does yna ddim cyfiawnder y gallen nhw roi iddo fe, fydde fe byth yn dod ac April yn ôl, does yna ddim y gallen nhw wneud i'n digolledu ni am gymryd ei bywyd hi"

"Dydw i ddim yn meddwl y byddw ni fyth yn dod i delerau gyda'r peth. Mae e fel breuddwyd, yn wir - dyw e ddim yn real .. ond mae e'n real, yn amlwg."

Roedd Mr Smith gyda Coral, mam April, pan wnaeth hi apel ar y teledu yn gofyn am unrhyw wybodaeth ynglŷn â'i merch

Fe fydd e a'i wraig yn dweud wrth y rhaglen am y noson yr aeth April ar goll a sut y maen nhw fel teulu yn ymdopi hebddi hi.

"Mae'n galed. Ry'ch chi'n mynd allan ac mae pobl yn gofyn cwestiynau i chi ac mae'n anodd gwybod beth i'w ddweud."

"Ry'n ni yn ei cholli bob dydd. Yn meddwl amdani hi bob dydd. Siarad amdani hi bob dydd. Bydd hi yn aros yn ein bywydau .. yn ein meddyliau" ychwanegodd Mr Smith.

Bydd Byw heb April: Y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu ar Ddydd Sul Mehefin 2 am 20:00 ar S4C. Bydd hi'n bosibl gweld y rhaglen hefyd ar wasanaeth arlein Clic s4c.co.uk/clic., dolen allanol