Buddugoliaeth yn 'syfrdanu' Stanford

  • Cyhoeddwyd
Non StanfordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Non Stanford ar ei ffordd i fuddugoliaeth ym Madrid

Dywed y Gymraes Non Stanford ei bod wedi ei "syfrdanu" gan ei buddugoliaeth yng Nghyfres Triathlon y Byd ym Madrid dros y penwythnos.

Enillodd Non y gystadleuaeth gyda bwlch o 26 eiliad, gyda Jodie Stimpson o Brydain yn drydydd.

Dywedodd: "Roedd hi'n dipyn o sioc ennill o gymaint, ac i agor bwlch mor gynnar yn y ras rhedeg."

Dywedodd y byddai'r fuddugoliaeth yn hwb mawr cyn Pencampwriaeth Ewrop yn Alanya, Twrci, ymhen pythefnos ar Fehefin 14.

Mae'r fuddugoliaeth yn dilyn gorffen yn ail yn rownd mis Ebrill o Gyfres y Byd yn San Diego, ac mae'n codi Non o 18ed i 5ed ar restr detholion y byd.

Enillodd mewn amser o ddwy awr, pedwar munud a 39 eiliad.

Y tymor hwn yn barod mae hi wedi ennill rownd agoriadol cyfres Grand Prix Ffrainc a Chwpan Ewrop ym Mhortiwgal.

Cymraes arall, Helen Jenkins, enillodd gyfres triatholon y byd yn 2009 a 2011, ac mae disgwyl iddi hi ddychwelyd o anaf yn 2014, gan adael triathlon Cymru i ferched mewn cyflwr gwych.

"Mae'n wych, ac yn dangos er nad yw Helen yn rasio gyda ni eleni mae yna gryfder yn y garfan.

"Mae ennill un o gyfres y byd yn mynd i roi llawer o hyder i mi wrth fynd ymlaen, ac yn hwb enfawr cyn pencampwriaeth Ewrop."

Wedi'r gystadleuaeth yn Alanya, fe fydd Non yn paratoi am y pumed ras yng Nghyfres y Byd yn Kitzbühel, Awstria ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 6.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol