Dros 100 mewn cyfarfod iechyd

  • Cyhoeddwyd
Y cyfarfod ym Mhontypridd nos Lun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyfarfod ym Mhontypridd nos Lun yn un o 40 cyfarfod tebyg dros yr wythnosau nesaf

Daeth dros 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ym Mhontypridd nos Lun i drafod cynlluniau dadleuol i newid rhai o wasanaethau yn ysbytai de Cymru.

Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd byrddau iechyd y de yn cynnal 40 o gyfarfodydd i gyd i egluro pam fod angen canoli gofal brys a gofal i blant a mamau'n mewn ysbytai mawr.

Gallai'r newidiadau olygu fod Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, yn rhoi'r gorau i drin yr achosion mwyaf argyfyngus.

Roedd nifer o'r rhai ddaeth i'r cyfarfod ym Mhontypridd yn lleisio pryderon am y cynlluniau hynny ac yn gofyn pam fod yr ysbyty hwnnw yn cael ei dargedu'n benodol.

Y cyfarfod hwnnw oedd un o'r cyntaf i gael ei gynnal, gydag eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Three Cocks ger y Gelli Gandryll, Powys.

Cyfarfodydd

Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau'r byrddau iechyd ei gyhoeddi fis diwethaf, ac mae'r cyfarfodydd yn cael eu trefnu gan fyrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf a Phowys.

Bydd nifer o gyfarfodydd yn digwydd gydol yr wythnos yn Rhondda, Casnewydd, Aberafan, Aberhonddu, Aberdâr a Glyn-nedd.

Byddai'r newidiadau arfaethedig i'r GIG yn ne Cymru yn golygu cwtogi nifer yr adrannau arbenigol o saith i bedwar neu bump.

Yn ôl swyddogion iechyd, y cynllun gorau fyddai lleoli gwasanaethau arbenigol yng Nghaerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr ac ysbyty newydd ger Cwmbrân.

Ond mae nifer wedi gwrthwynebu'r cynlluniau gan gynnwys gwleidyddion a'r cyhoedd. Bu protest ym Mhontypridd ddydd Sadwrn yn erbyn y cynlluniau.

Mae arweinwyr y GIG yn credu bod gwasanaethau mewn perygl o ddymchwel yn llwyr oni bai bod newidiadau mawr yn cael eu gwneud i'r modd y maen nhw'n cael eu darparu.

Maen nhw'n dadlau ei bod yn hanfodol sicrhau bod gofal mewn ysbytai yn cwrdd â safonau proffesiynnol y DU a hefyd yn delio gyda phroblemau fel prinder meddygon, poblogaeth sy'n heneiddio a phwysau ariannol.