Lluniau anweddus ar gyfrifiadur ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae tad o Wynedd yn flin bod ei ferch naw oed wedi medru gweld delweddau pornograffig ar gyfrifiadur yn yr ysgol.
Mi ddaeth y ferch adref nos Fercher, gan ddweud wrth ei rhieni ei bod am drafod "digwyddiad" yn yr ysgol gynradd.
Eglurodd Dewi Parry: "Roedd yn brysur yn gweithio ar ei chyfrifiadur yn yr ystafell Technoleg Gwybodaeth pan glywodd rai bechgyn yn chwerthin, a phan drodd i weld beth oedden nhw'n gwneud fe welodd ddelweddau anweddus o ferched ar y sgrin.
"Roedd hi'n noson annifyr iawn i ni. Roedd hi am gael gwybod pam y byddai merch ar y cyfrifiadur heb ddillad amdani a beth oedd XXXX yn ei olygu.
"Rwy'n derbyn fel rhiant na allwn ei chysgodi rhag pethau fel hyn am byth, ond hefyd fel rhiant fe fyddwn i'n disgwyl cael cyfle i benderfynu pryd i drafod pynciau fel hyn gyda hi.
"Fi fel rhiant ddylai benderfynu pryd y bydd hi'n ddigon hen ... nid mewn ystafell ddosbarth fel plentyn naw oed."
'Ddim yn ddigon'
Cysylltodd y rhiant gyda'r ysgol ar unwaith ac mae wedi canmol yr ysgol a'r pennaeth.
Dywedodd y prifathro wrtho nad oedd gan yr ysgol reolaeth dros y teclynnau sy'n rhwystro cynnwys rhag ymddangos, ac mai Cyngor Gwynedd oedd yn gyfrifol am hynny.
Dywedodd Mr Parry fod Cyngor Gwynedd wedi ymateb yn gyflym iawn, gan ddweud mai cwmni allanol oedd yn gyfrifol a bod y gwall wedi ei gywiro dros dro tan fod modd cael ateb parhaol.
Ond nid yw'r ymddiheuriad yn ddigon iddo. Ychwanegodd:
"Mae'n ymddiheuriad, ydi, ond fedrwch chi ddim cael y math yna o ddelweddu mewn ysgol gynradd a dyna'i diwedd hi.
"Does dim ots gen i ar bwy mae'r bai, ddylai'r peth ddim fod wedi digwydd ac ni ddylai'r ysgol - yn enwedig y prifathro - fod wedi cael ei roi mewn sefyllfa fel hyn - mae'n annerbyniol."
'Digwyddiad difrifol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae sicrhau defnydd diogel ac addas o'r rhyngrwyd yn eithriadol bwysig i Gyngor Gwynedd.
"Rydym yn defnyddio technoleg gydnabyddedig sy'n cael ei ddarparu gan gwmni arbenigol i rwystro mynediad i ddelweddau a gwefannau anaddas o gyfrifiaduron ysgol.
"Mae nam wedi ei adnabod yn y meddalwedd yma heddiw (ddydd Iau). Cyn gynted ag y daeth hyn i'n sylw, cysylltom gyda'r cwmni meddalwedd a weithredodd ar unwaith i ddelio gyda'r sefyllfa.
"Mae hwn yn ddigwyddiad difrifol ac rydym yn parhau i weithio gyda'r darparwr meddalwedd a'r ysgol."
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Gofal Cwsmer y cyngor: "Fel yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am faterion technoleg gwybodaeth, rwyf wedi gofyn i'r adran gynnal adolygiad o'n trefniadau i weld pa wersi sydd i'w dysgu ac i weithredu arnyn nhw'n syth."