Adolygiad wedi cynnydd heintio C.diff

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o achosion o C.diff yng ngogledd Cymru nag mewn rhannau eraill o'r wlad

Mae cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu heintio yn yr ysbyty wedi arwain at adolygiad wrth i reolwyr y GIG ddweud eu bod yn gwella glendid ar wardiau.

Cafodd arbenigwyr eu galw i mewn yn dilyn achosion o Clostridium difficile (C.diff) yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych yn gynharach eleni.

Dangosodd adroddiad bod nifer yr achosion newydd bob wythnos ar gyfartaledd wedi codi i dri bob wythnos yn 2012 i wyth bob wythnos yn ystod Mawrh ac Ebrill eleni.

Mae'r adroddiad yn galw am adolygiad o drefniadau rheoli haint.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd y gellid gwneud mwy i ddarparu amgylchedd diogel i gleifion.

Adolygiad annibynnol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nawr yn dweud eu bod wedi comisiynu adolygiad annibynnol a fydd yn cael ei arwain gan yr Athro Brian Duerden - arbenigwr yn y maes a phennaeth adran meicrobioleg meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae C.diff i'w weld yn naturiol yng nghyrff rhai pobl, ond gall heintio ddigwydd os yw'r bacteria yn y corff yn cael ei gorddi gan ddefnydd cyffuriau gwrth-feiotig i drin rhywbeth arall.

Yn ystod 2013 mae C.diff wedi ei gynnwys ar dystysgrifau marwolaeth saith o bobl yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud bod graddfa achosion o C.diff yng Nghymru yn gostwng, ond mae mwy'n cael eu heintio yn ysbytai gogledd Cymru nag mewn rhannau eraill o'r wlad.

Ychwanegodd prif weithredwr y bwrdd Geoff Lang bod nifer yr achosion newydd yng Nglan Clwyd yn gostwng ers i gamau gael eu cymryd i atal yr haint rhag lledu.