Adam Price yn cynnig ei enw

  • Cyhoeddwyd
Adam PriceFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe benderfynodd Adam Price fynd i wneud gwaith ymchwil yn America ar ôl sefyll i lawr fel AS yn 2010

Mae Adam Price wedi cyhoeddi ei fod am chwarae rhan ar y meinciau blaen yng ngwleidyddiaeth Cymru unwaith eto.

Dywedodd ei fod wedi rhoi ei enw ymlaen i sefyll yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016 yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Fo oedd Aelod Seneddol yr ardal honno ar gyfer Plaid Cymru nes 2010.

Mae'r cyn AC Nerys Evans wedi datgan ei bod yn awyddus i fod yn ymgeisydd yn yr un etholaeth.

Deellir bod Cefin Campbell a Darren Price sydd yn gynghorwyr i'r blaid wedi rhoi eu henwau ymlaen hefyd.

Fe ddywedodd Rhodri Glyn Thomas, yr Aelod Cynulliad presennol ym mis Ebrill na fyddai yn sefyll yn 2016.

Ers 2010 mae Mr Price wedi gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Havard yn America ac ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru mae wedi bod yn cynghori arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Mae rhai sylwebyddion wedi dweud ei fod yn arweinydd posib i'r dyfodol.

Dywedodd: "Dw i'n credu ei bod hi yn bwysig bod yna ddewis. Dw i'n credu y bydd yna ystod eang o ymgeiswyr profiadol.

Bydd gan yr aelodau ddewis gwirioneddol sydd yn adlewyrchu cryfder y blaid yn yr etholaethau."

Llywodraethu yw nod y blaid meddai ac mae'n dweud iddo gael ei annog i sefyll wrth weld "cenhedlaeth newydd o bobl, nifer sydd yn ifancach na fi sydd yn benderfynol eu bod am wneud gwahaniaeth.

"Dyna wnaeth fy argyhoeddi am fy mod yn gweld bod y blaid o ddifri am ffurfio llywodraeth."