Pryder am arholiadau gwahanol
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor o aelodau seneddol wedi mynegi pryder am gael arholiadau gwahanol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan ddweud y byddai newid o'r fath yn "destun gofid".
Mae adroddiad newydd gan Bwyllgor Addysg San Steffan yn dweud y dylai'r tair gwlad barhau i gynnal arholiadau TGAU a Safon Uwch, ac maen nhw'n annog gweinidogion "i wneud popeth posib i sicrhau bod hyn yn digwydd".
Daw'r adroddiad yn sgil y dadlau am yr arholiad TGAU Saesneg yr haf diwethaf, ac fe ddaw wythnosau wedi i'r Ysgrifennydd Addysg yn San Steffan, Michael Gove, ysgrifennu at weinidogion addysg Cymru a Gogledd Iwerddon yn awgrymu ei bod yn bryd i'r tair gwlad fynd eu ffordd eu hunain.
Mae grŵp trawsbleidiol o ASau hefyd yn dweud y dylai Ofqual - y corff rheoleiddio arholiadau a chymwysterau yn Lloegr - dalu sylw i farn arbenigol cyn newid y system.
'Cyfres o gamgymeriadau'
Mae'r adroddiad yn rhoi'r bai am y dadlau yn Awst 2012 ar gymwysterau oedd wedi eu cynllunio'n wael, ac yn beio "cyfres o gamgymeriadau yr oedd modd eu hosgoi" pan gafodd y cyrsiau newydd eu datblygu gan y llywodraeth flaenorol.
Eisoes mae Mr Gove wedi cyhoeddi newidiadau i'r TGAU a Safon Uwch yn Lloegr, ac mae gwahaniaethau eisoes wedi dod i'r amlwg yn y modd y bydd y gwledydd datganoledig yn gwneud hyn.
Yn y cyfamser, bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth ynglŷn â chynlluniau i newid arholiadau TGAU yn Lloegr.
Mae'n debygol y bydd gwaith cwrs yn dod i ben ym mwyafrif y pynciau, ac fe allai rhifau gael eu defnyddio i roi graddau - yn hytrach na llythrennau.
Dywedodd y pwyllgor yn yr adroddiad:
"Mae'r berthynas rhwng gweinidogion yng Nghymru a Lloegr yn amlwg o dan straen wrth i'r cyfnod o gymwysterau i dair gwlad ddod i ben.
"Rydym yn credu y byddai canlyniad fel hyn yn destun gofid, ac yn gobeithio, hyd yn oed yn hwyr yn y dydd, y bydd cydberchnogaeth o'r TGAU a Safon Uwch yn parhau.
"Rydym yn annog gweinidogion i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod hyn yn digwydd."
'Heb ystyriaeth ofalus'
Ychwanegodd cadeirydd y pwyllgor, Graham Stuart AS: "Mae'r pwyllgor addysg yn bryderus bod prysurdeb tuag at gael systemau arholi ar wahân i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, heb ystyriaeth ofalus o'r hyn allai gael ei golli, na chytundeb os mai hyn yw'r peth iawn i wneud.
"Wrth fynd ar ôl diwygiadau yn y dyfodol, mae'n hanfodol bod gweinidogion ac Ofqual yn talu sylw i farn arbenigol a ddim yn anwybyddu rhybuddion.
"Rhaid iddyn nhw ddeall faint o bwysau sydd ar ysgolion ac athrawon unigol i gael canlyniadau, a rhaid sicrhau bod yr arholiadau y mae plant yn sefyll yn ddigon cadarn i wrthsefyll y pwysau."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC):
"Mae CBAC yn cytuno fod angen i bawb ddysgu gwersi wedi TGAU Saesneg 2012.
"Rydym yn nodi barn y pwyllgor y byddai rhoi terfyn ar gymhwyster a rheoleiddio i'r tair gwlad yn "destun gofid".
"Prif flaenoriaeth CBAC yw sicrhau fod gan bobl ifanc gymwysterau sy'n cael eu parchu a'u gwerthfawrogi yn y DU a thu hwnt ac rydym yn edrych 'mlaen i fod yn rhan o drafodaethau'n ymwneud â datblygu cymwysterau yn Lloegr a Chymru, fel ein bod yn gallu parhau i ddarparu cymwysterau rhagorol sy'n adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2013
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd21 Medi 2012
- Cyhoeddwyd18 Medi 2012
- Cyhoeddwyd12 Medi 2012
- Cyhoeddwyd24 Awst 2012