Cae'r Gors o dan ofal Cadw
- Cyhoeddwyd
Mae'r bwthyn lle fuodd yr awdur Kate Roberts yn byw tra yn blentyn yn mynd dan ofal yr awdurdod treftadaeth Cadw.
Mae'r tŷ eisoes ar agor i'r cyhoedd, ond mae Cadw yn dweud eu bod am weithio yn agos gydag Ymddiriedolaeth Cae'r Gors i greu safle lle gall bobl ddod i werthfawrogi gwaith Kate Roberts.
Y bwriad yw cynnal digwyddiadau i ddenu ymwelwyr i'r safle, sy'n nodweddiadol o fwthyn chwarelwr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
I goffau'r newid yma, bydd y gweinidog dros y celfyddydau a chwaraeon, John Griffiths yn ymweld â'r safle yn Rhosgadfan ger Caernarfon.
Atyniad cynaliadwy
Dywedodd y byddai Cadw yn ceisio creu atyniad cynaliadwy i ymwelwyr:
"Mae pwysigrwydd gwaith llenyddol Kate Roberts i bobl Cymru i'w weld dros y wlad yma a dramor hefyd."
"Bydd Cae'r Gors yn elwa o ymuno a theulu o safleoedd eiconig Cadw, wrth barhau i gynnal profiad unigryw i ymwelwyr."
Mae'r safle, lle fuodd Kate Roberts yn byw rhwng 1895 a 1910, yn enghraifft nodweddiadol o fwthyn chwarelwr. Mae gan Cadw 129 o safleoedd tebyg dan ei warchodaeth dros Gymru erbyn hyn.
Mae Kate Roberts yn awdur arwyddocaol yn hanes Cymru am ei straeon byr a nofelau, gan gynnwys 'Te yn y Grug' a 'Traed mewn Cyffion'.