Selby allan o Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd
Ni fydd y bocsiwr Andrew Selby, enillodd fedal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop, yn cael cystadlu dros Gymru yn Gemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf yn Glasgow.
Mae'r bocsiwr pwysau plu wedi ymuno â chyfundrefn focsio broffesiynol sydd yn gwarchod ei statws ar gyfer y Gemau Olympaidd, ac fe fydd yn ymladd ar y gylchdaith ryngwladol y flwyddyn nesaf.
Mae hynny'n golygu y bydd ganddo'r hawl i gystadlu yn Rio de Janeiro yn 2016, ond nid yw'r cytundeb yn cynnwys darpariaeth i'w rhyddhau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.
Mewn datganiad, dywedodd y Gymdeithas Focsio Ryngwladol: "Mae'r gyfundrefn yn cynnig cyfle unigryw i ymladdwyr droi'n broffesiynol tra'n cadw eu statws Olympaidd.
"Mae hynny'n pontio bwlch rhwng bocsio amatur agored a bocsio proffesiynol."
Selby yw'r bocsiwr cyntaf o Brydain i amddiffyn ei deitl Ewropeaidd wedi iddo guro Michael Conlan o Iwerddon ym Minsk y mis diwethaf.
Enillodd y bocsiwr 24 oed o'r Barri fedal arian ym Mhencampwriaeth Amatur y Byd yn 2011 ac roedd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, lle collodd yn rownd yr wyth olaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012