Halfpenny yn serennu i'r Llewod

  • Cyhoeddwyd
Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Leigh Halfpenny yn sgorio 30 o bwyntiau i'r Llewod yn eu gêm yn erbyn y New South Wales Waratahs

Fe sgoriodd y cefnwr Leigh Halfpenny 30 o bwyntiau'r Llewod yn erbyn y New South Wales Waratahs yn Sydney.

Fe ddechreuodd y Llewod ar dân gyda'r asgellwr Simon Zebo yn croesi'r llinell gais yn eiliadau cynta'r gêm. Ond chafodd ymdrech y Gwyddel ddim ei ganiatau.

Yn fuan wedyn sgoriodd Leigh Halfpenny ei bwyntiau cyntaf gyda chic gosb.

Ymestyn y fantais

Aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen. Llwyddodd Zebo i roi'r bêl i'r canolwr Jonathan Davies cyn iddo fe ei rhyddhau hi i'r maswr Jonathan Sexton groesi'r llinell.

Ychwanegodd Leigh Halfpenny ddau bwynt at ei gyfanswm gyda'r trosiad.

Ond fe ddeffrodd y Waratahs ar ôl mynd ddeg pwynt ar ei hol hi. Roedd yna gais i'r canolwr Tom Carter a gafodd ei drosi gan Brendan McKibbin. Mi sgoriodd y mewnwr gic gosb arall cyn diwedd yr hanner.

Fe sgoriodd Halfpenny ddwy gic gosb arall at ei gyfanswm personol cyn iddo sgorio ei gais cyntaf ar hanner amser. Llwyddodd Sexton a Davies i basio'n gywir cyn rhoi'r bêl i'r Cymro groesi'r llinell. Roedd Halfpenny yn llwyddiannus eto gyda'r trosiad.

23 i 10 oedd hi ar yr egwyl.

Ail gais Halfpenny

Fe ddechreuodd Halfpenny yr ail hanner fel y dechreuodd yr hanner cyntaf drwy sgorio cais gwefreiddiol. Roedd yna gydweithio da rhwng y ddau Gymro yn y canol, Davies a Roberts, cyn rhoi'r cyfle i'r cefnwr groesi'r llinell. Roedd Halfpenny yn llwyddiannus eto gyda'r trosiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ail gais i Leigh Halfpenny ar ddechrau'r ail hanner

Ond unwaith yn rhagor fe ddaeth y Waratahs yn ol i mewn i'r gem gyda Carter yn croesi am ei ail gais. Roedd yna drosiad arall i McKibbin.

Ychwanegodd Halfpenny driphwynt gyda'i seithfed cic lwyddiannus yn olynnol i ehangu'r bwlch unwaith eto rhwng y ddau dîm.

Roedd y frwydr ar ben bob pwrpas ar ôl i'r Sais Tom Croft ruthro dros y llinell. Ychwanegodd Halfpenny y trosiad cyn iddo adael y maes ar yr awr.

Cyfanswm y Cymro o 30 o bwyntiau yw'r pedwerydd uchaf erioed i chwaraewr unigol sydd wedi cynrychioli'r Llewod.

Yr unig bryder i'r Llewod oedd anaf i'r canolwr Jamie Roberts. Bu'n rhaid iddo adael y maes gydag anaf drwg i'w ysgwydd.

Davies yn creu argraff

Cyn diwedd y gêm fe sgoriodd Jonathan Davies gais haeddiannol ar ôl gweithio'n galed o'r gic gyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Davies yn creu argraff cyn prawf cynta'r Llewod

Mae 'na ddyfalu nawr y bydd e yn y tîm prawf ddydd Sadwrn nesaf. Ychwanegodd yr eilydd Owen Farrell bwyntiau olaf y gêm gyda throsiad.

Dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland ei fod e wedi ei blesio gyda'r perfformiad ond bydd yna gyfle olaf nos Fawrth nawr i chwaraewyr greu argraff cyn i'r tîm prawf gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Y Llewod: Halfpenny, Maitland, Davies, Roberts, Zebo, Sexton, Phillips, Vunipola, T. Youngs, A. Jones, A. Jones, O'Connell, Croft, Warburton, Heaslip.

Eilyddion: Hibbard, Corbisiero, Cole, Parling, Lydiate, B. Youngs, Farrell, Kearney.

Waratahs: Mitchell, Crawford, Horne, Carter, Betham, Foley, McKibbin, Tilse, Ulugia, Ryan, Skelton, Atkins, Holloway, McCutcheon, Dennis.

Eilyddion: Holmes, Aho, Talakai, L. Timani, Gilbert, Lucas, Volavola, Kingston.

Dyfarnwr: Jaco Peyper (De Affrica)

Hefyd gan y BBC