Beth yw gwerth Cymru?
- Cyhoeddwyd
Does dim dwywaith bod Cymru, fel pob rhan o'r DU, wedi wynebu amryw o broblemau economaidd difrifol yn ddiweddar.
Ond beth yw'r darlun ehangach o edrych ar yr ystadegau?
Mae ffigyrau twf GDP, sydd yn dangos faint mae'r economi wedi tyfu neu grebachu yn y tri mis diwethaf, yn un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd i fesur cryfder yr economi.
Yn anffodus does dim ffigyrau penodol ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd ond mae 'na ffigyrau eraill y gellid eu defnyddio.
Diweithdra
Cododd canran y di-waith yn sylweddol yn 2008, gan barhau'n weddol gyson ers hynny. Mae'r gyfradd yng Nghymru ychydig yn uwch na gweddill y DU.
Mae'r sectorau cyhoeddus a phreifat wedi rhannu'r colledion ers 2008 - ond nid yw hyn yn adrodd y darlun llawn.
Fel y gwelir yn y tabl isod, roedd nifer y gweithwyr sector cyhoeddus yn parhau i godi tan 2009, cyn disgyn yn gyson wedi hynny. Mae'r gwrthwyneb yn wir am y sector preifat, gyda chwymp sylweddol yn 2009 ond cynnydd cyson ers hynny.
A yw'r sector preifat felly'n allweddol ar gyfer achub economi Cymru? Ar y llaw arall, ai'r colledion yn y sector cyhoeddus sy'n gyfrifol am y diffyg twf dros y pum mlynedd diwethaf? Mae'n debygol bod elfen o wirionedd i'r ddau.
Gwaith
Dyw pethau ddim yn fêl i gyd i'r rheiny sydd mewn swyddi chwaith. Mae cyflogau wythnosol wedi bod yn codi - o £498.20 yr wythnos yn 2008, i £520.70 yn 2012. Ond mae'n llai na lefel chwyddiant, sef y cynnydd ym mhrisiau bwyd a nwyddau, gan olygu nad yw'r arian ym mhocedi pobl wedi bod yn mynd mor bell ag o'r blaen.
O'i gymharu â rhannau eraill y DU, mae'r sefyllfa wedi dirywio. Yn 2008 roedd cyflogau wythnosol Cymru'n uwch na Gogledd Iwerddon a gogledd ddwyrain Lloegr, ond bellach mae ganddi'r lefel isaf o holl ranbarthau'r DU.
Ardaloedd Cymru
O edrych ar faint o arian sydd gael bobl yn weddill i'w wario bob blwyddyn ar ôl trethi, mae'r cyfartaleddau ar draws Cymru'n amrywio.
Mae'r ffigyrau wedi cael eu haddasu er mwyn ystyried effaith chwyddiant.
Y de orllewin yw'r ardal â'r lefelau isaf yng Nghymru, er bod y gogledd a'r de ddwyrain wedi gweld cwymp. Ar y llaw arall, mae'r canolbarth - Powys yn benodol - wedi gweld cynnydd er gwaetha'r dirwasgiad.
Wrth gwrs, gall amryw o ffactorau - megis costau byw lleol a chyflogau - fod yn gyfrifol am y gwahaniaethau.
Ond mae'n sicr yn awgrym nad yw pob rhan o Gymru yn rhannu'r problemau economaidd i'r un raddfa.
Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Cymru'n hanesyddol wedi bod â chyfradd ychydig yn uwch o bobl yn gweithio yn y sector cyhoeddus - rydym eisoes wedi gweld bod rhai o'r swyddi yma wedi cael eu colli'n ddiweddar.
Caiff hyn ei adlewyrchu yn y ffigyrau ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.
O ddata PESA, a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU, gellir gweld fod y gwariant wedi dechrau arafu. Mae'n cael effaith ar sawl agwedd o'r economi, gan gynnwys swyddi, buddsoddiadau trafnidiaeth ac adeiladu, a chyfleusterau sydd ar gael i'r cyhoedd.
Busnesau
Yn olaf, sut mae busnesau Cymru wedi ymdopi â'r trafferthion economaidd diweddar?
Gwelir fod nifer y busnesau newydd wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, tra bod y nifer sydd wedi dod i ben yn codi. Ers 2009, mae mwy o fusnesau wedi cau pob blwyddyn na sydd wedi cychwyn.
Ond mae arwyddion o welliant i'w weld o'r graff hefyd, gyda ffigyrau'n dangos cynnydd yn nifer y busnesau newydd yn 2011.
Casgliad
Darlun bras yw hyn o sefyllfa economaidd Cymru heddiw ond mae'n amlwg nad yw'r trafferthion economaidd ar ben o bell ffordd. Mae diweithdra'n parhau'n uchel, tra bod cyflogau ac arian gwario'n parhau i ostwng. Mae gwariant cyhoeddus hefyd wedi arafu.
Ond, ar y llaw arall, mae'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau'n parhau i leihau. Yn ogystal, mae nifer y busnesau yng Nghymru, a phobl a gyflogir yn y sector preifat, yn cynyddu.
Mae arwyddion, felly, nad yw pethau mor wael â hynny.