Ieuan Wyn Jones i sefyll lawr fel AC
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall y bydd cyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn rhoi'r gorau iddi fel Aelod Cynulliad Ynys Môn.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi ei fwriad fore dydd Mawrth, gan ddweud y bydd yn gadael y cynulliad ble mae wedi bod yn aelod ers 1999.
Y dyfalu yw ei fod yn dymuno dilyn gyrfa newydd, mewn maes gwahanol i wleidyddiaeth rheng flaen.
Byddai ei benderfyniad yn arwain at gynnal is-etholiad ar Ynys Môn.
Mae'r cyfreithiwr o Ddinbych wedi cael gyrfa wleidyddol o bwys yng Nghymru, gan gynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan rhwng 1987 a 2001.
Cafodd ei ethol yn Llywydd y blaid yn Awst 2000, ar ôl i Dafydd Wigley ildio'r awenau oherwydd rhesymau meddygol.
Yna fe arweiniodd ei blaid i rannu grym gyda Llafur ym Mae Caerdydd wedi etholiad y Cynulliad yn 2007.
Daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog a chafodd gyfrifoldeb am bortffolio pwysig yr economi o fewn y llywodraeth glymblaid.
Daeth ei gyfnod fel arweinydd Plaid Cymru i ben wedi canlyniadau siomedig y blaid yn etholiad y Cynulliad yn 2011.
Roedd nifer yn dweud fod y blaid wedi methu ag elwa o'u cyfnod fel partneriaid clymblaid.
Cafodd Mr Jones ei olynu gan Leanne Wood ym mis Mawrth y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2012