Bant a ni! Is-etholiad Môn
- Cyhoeddwyd
- comments
Efallai ei bod hi braidd fel bwyta'r brechdanau cyn cynnal yr angladd ond yw rhaid dweud bod y syniad o is-etholiad ar Ynys Môn yn tynnu dŵr i'r dannedd.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef bod is-etholiadau i mi fel Cwpan y Byd i ddilynwyr pêl droed neu deithiau'r Llewod i fois rygbi. Does dim byd mwy difyr nac is-etholiad da ac fe ddylai un Ynys Môn fod yn gorcyr.
Mae 'na sawl rheswm dros ddweud hynny. Yn gyntaf fel mae pob anorac yn gwybod, hon yw'r unig etholaeth i gael ei chynrychioli ar lefel seneddol gan y pedair prif blaid. Yn ail fe fyddai buddugoliaeth i Lafur yn sicrhau mwyafrif i'r blaid yn y Cynulliad. Taflwch Peter Rodgers i mewn i'r mics ac mae 'na bryd blasus iawn yn cael ei baratoi ar ein cyfer.
Y man cychwyn yn fan hyn yw'r etholiadau lleol diweddar ar yr ynys. Gellir crynhoi'r rheiny trwy ddweud eu bod yn llwyddiant ar y cyfan i'r ymgeiswyr annibynnol ac i Blaid Cymru. Roedd y canlyniadau yn siomedig, os nad yn drychinebus, i'r pleidiau eraill.
Fe fydd Plaid Cymru yn cychwyn yr ymgyrch gyda thipyn o hyder felly ond camgymeriad fyddai credu y bydd y frwydr o reidrwydd yn un hawdd. Ar y cyfan mae etholwyr yn tueddu cosbi pleidiau am is-etholiadau sy'n ymddangos yn ddiangen. Tasg gyntaf Plaid Cymru felly yw darbwyllo'r etholwyr bod Ieuan wedi sefyll lawr er mwyn Môn yn hytrach na'i fod wedi troi ei gefn arni.
Y cwestiwn nesaf i Blaid Cymru yw pa fath o ymgeisydd fyddai'n apelio at yr ynyswyr. Mae'r ffaith na lwyddodd y blaid i ddiorseddu Albert Owen yn awgrymu nad oes 'na rywun ymhlith y to hŷn sy'n debyg o dycio. Efallai mai dyna'r rheswm am sylw Alun Ffred Jones y bore 'ma bod hwn yn gyfle am "chwistrelliad o waed newydd" i'r blaid.
Mae'r amseriad braidd yn anffodus i Heledd Fychan sydd ar ganol y ras am enwebiad Arfon ar hyn o bryd. Ond, o fethu yn Arfon fe fyddai'n ymgeisydd credadwy a phrofiadol. Mae enwau rhai o'r cynghorwyr newydd fel Nicola Roberts a Carwyn Jones hefyd yn cael eu crybwyll.
Pwy fydd y prif wrthwynebwyr Plaid Cymru yn y ras?
Rwy'n meddwl bod hi'n deg diystyru'r Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol ac Ukip. O Lafur neu efallai ymgeisydd annibynnol y daw'r bygythiad mwyaf.
Does dim ymgeisydd amlwg gan Lafur ac eithrio Tal Michael neu Joe Lock, efallai - ond cymaint yw'r wobr anodd credu na fydd y blaid yn taflu popeth sydd ganddi at yr isetholiad gan ddefnyddio amwysedd Plaid Cymru ynghylch Wylfa fel pastwn i'w cholbio.
Fel dywedais i mae dyddiau difyr o'n blaenau!