Oriel: Dathlu cestyll Cymru

  • Cyhoeddwyd
Caernarvon Castle, 1777 gan Samuel Hieronymus Grimm (1733-1794)
Disgrifiad o’r llun,

Mae cestyll gwych Cymru yn cael eu dathlu mewn arddangosfa o ddyfrlliwiau, lluniau a phrintiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Un o'r lluniau sydd i'w gweld yw hwn o Gastell Caernarfon, sy'n dyddio o 1777, gan Samuel Hieronymus Grimm (1733-1794).

Castell Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y gwaith ar Gastell Caernarfon ar ôl i Edward I orchfygu Cymru yn 1277 pan aeth ati i gryfhau ardaloedd gwrthryfelgar o ogledd Cymru. Ers hynny, mae'r gaer wedi dod yn safle ar gyfer arwisgo Tywysog Cymru - gydag Edward VIII yn cael ei arwisgo yno yn 1911 a Thywysog Charles yn 1969.

Kidwelly Castle gan Hugh Grecian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell Cydweli hefyd yn ymddangos yn yr arddangosfa, sy'n cynnwys gwaith o'r 1670au i'r 1860au gan artistiaid fel Henry Gastineau, Paul Sandby, Thomas Girtin a Richard Wilson. Hugh Grecian Williams wnaeth y darlun hwn o Gastell Cydweli.

Kidwelly Castle
Disgrifiad o’r llun,

Castell Eingl-normanaidd yw Castell Cydweli. Mae'r tyllau llofruddio a ddefnyddiwyd gan amddiffynwyr i daflu neu arllwys creigiau, dŵr ac olew berwedig a thywod poeth ar ymosodwyr yn dal yno.

Caerphilly Castle by John Inigo Richards
Disgrifiad o’r llun,

Hwn yw'r tro cyntaf i rai o'r darluniau gael eu harddangos. Mae'r llun dyfrlliw hwn o Gastell Caerffili gan John Inigo Richards.

Castell Caerffili
Disgrifiad o’r llun,

Adeiladwyd Castell Caerffili a adeiladwyd gan yr uchelwr Gilbert deClare, Arglwydd Morgannwg rhwng 1268 a 1271. Roedd eisiau amddiffyn ei hun yn rhag Llywelyn Ein Llyw Olaf, tywysog olaf Cymru unedig cyn concwest Edward I.

Castell Dolwyddelan gan WG Jennings
Disgrifiad o’r llun,

Castell Dolwyddelan gan WG Jennings yn un o'r lluniau i'w gweld yn yr arddangosfa - mae cyfle i ymwelwyr ei weld rhwng nawr a 29 Medi.

Castell Dolwyddelan
Disgrifiad o’r llun,

Adeiladwyd Castell Dolwyddelan yn gynnar yn y 13eg ganrif fel un o gadarnleoedd tywysogion Gwynedd. Yn 1283 cafodd ei ddal gan Edward I.