'Arwr' ifanc wedi achub ei chwaer fach rhag tân gwyllt

Aeth Olly i'r ysbyty i dderbyn gofal ar ôl cael llosgiadau i'w ben, ei wddf a'i ddwylo
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen ysgol wedi ei alw'n arwr ar ôl achub ei chwaer ddwyflwydd oed rhag tân gwyllt.
Llwyddodd Olly, sy'n 11, i wthio ei chwaer fach Daisy o'r ffordd, wrth i dân gwyllt ddisgyn drosodd a dod syth amdanynt mewn arddangosfa ym Mhont-y-pŵl.
Cafodd Olly losgiadau ar ei ben, ei wddf a'i ddwylo pan aeth y tân gwyllt yn sownd yn ei ddillad.
Dywedodd ei fam, Charlotte, y byddai'r sefyllfa wedi bod yn llawer gwaeth os na fyddai Olly wedi ymateb fel y gwnaeth.
"Fe wnaeth e ymateb mor gyflym. Roeddwn i'n gallu ei weld yn digwydd, ond doeddwn i methu symud, dwi ddim yn gwybod sut y gwnaeth e mor gyflym."
'Ddim yn sylweddoli mawredd y peth'
Aeth Olly i'r ysbyty i dderbyn gofal a chafodd fynd adre erbyn 04:00 y bore.
"Mae e'n iawn nawr. Dwi ddim yn meddwl ei fod e'n sylweddoli mawredd y peth mae e wedi'i wneud, dydy e ddim wedi sylweddoli eto," meddai Charlotte.
"Roedd Daisy yn sefyll o'i flaen, oni bai ei fod e wedi ei symud hi, byddai wedi'i tharo yn ei hwyneb."
Roedd Olly i fod yn chwarae mewn band pibau ar orymdaith Sul y Cofio dros y penwythnos, ond oherwydd bod ei fysedd wedi'u hanafu, ni fydd yn medru chwarae yno.
Yn lle hynny, bydd Olly yn gosod torch yno ar ran y band.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.